Am dros 150 o flynyddoedd, mae Croes Goch Prydain wedi helpu pobl mewn argyfwng, pwy bynnag a ble bynnag ydyn nhw. Rydym yn rhan o rwydwaith gwirfoddol byd-eang, yn ymateb i wrthdaro, trychinebau naturiol ac argyfyngau unigol. Rydym yn galluogi pobl agored i niwed yn y DU a thramor i baratoi ar gyfer ac i wrthsefyll argyfyngau yn eu cymunedau eu hunain. A phan fydd yr argyfwng drosodd, rydyn ni’n eu helpu i wella a symud ymlaen â’u bywydau.

Mae Croes Goch Prydain wedi cyrraedd mwy na 2 filiwn o bobl yn y DU ers dechrau’r pandemig. Mae ein gwirfoddolwyr a’n staff wedi dosbarthu bwyd a meddyginiaeth i stepen drws pobl, wedi cael cleifion adref o’r ysbyty ac wedi bod yno i bobl ar eu munudau hiraf ar ein Llinell Gymorth Coronafirws.

Rydym hefyd yn cynnig adnoddau a gweithgareddau lles ar-lein rhad ac am ddim, gan gynnwys pecynnau Lles i oedolion a phlant yn Gymraeg. Gan gwmpasu ystod o bynciau, o wytnwch i adeiladu cysylltiadau a rheoli straen, mae’r pecynnau hyn yn llawn gweithgareddau i ddatblygu sgiliau ymdopi.

Mae 12% o’r 900+ o wirfoddolwyr yng Nghymru o dan 25 oed; pobl ifanc yn rhoi i’w cymuned wrth ennill sgiliau a phrofiadau gwerthfawr.