Mae ProMo-Cymru yn gweithio i sicrhau bod pobl ifanc a chymunedau yn cael eu hysbysu, eu cynnwys, eu cysylltu a’u clywed. Rydym yn cydweithio i wneud cysylltiadau rhwng pobl a gwasanaethau gan ddefnyddio creadigrwydd a thechnoleg ddigidol. Cynorthwyo’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus i ddychmygu, profi a chreu gwell gwasanaethau.

Mae ProMo yn gweithio gyda chymunedau trwy gyfathrebu, eiriolaeth, ymgysylltu diwylliannol, cynhyrchu digidol a chynhyrchu cyfryngau. Mae ein gwaith yn cael ei lywio gan dros 20 mlynedd o gyflwyno prosiectau gwybodaeth ieuenctid digidol. Rydym yn rhannu’r wybodaeth hon trwy hyfforddiant ac ymgynghoriaeth, gan ffurfio partneriaethau hirdymor i fod o fudd i bobl a sefydliadau. Mae ProMo yn elusen gofrestredig a menter gymdeithasol; buddsoddir ein helw yn ôl i’n prosiectau cymunedol.

Gwasanaethau

Prosiectau

Llogi Lleoliad