Mae Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol Dyfed-Powys wedi’i gynllunio i ddarparu amgylchedd diogel lle gall pobl ifanc ddysgu fel unigolion, meithrin sgiliau gweithio mewn tîm, datblygu perthynas gadarnhaol gyda’r heddlu a darparu gwasanaeth i’w cymunedau.

Nodau’r cynllun yw:
• Hyrwyddo dealltwriaeth ymarferol o blismona ymhlith yr holl bobl ifanc;
• Hyrwyddo ysbryd antur a dinasyddiaeth dda;
• Cefnogi blaenoriaethau plismona lleol trwy wirfoddoli a rhoi cyfle i bobl ifanc gael eu clywed;
• Ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan gadarnhaol yn eu cymunedau.