Plant yng Nghymru yw’r sefydliad ymbarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol, statudol a phroffesiynol ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluodd yng Nghymru. Ein nod yw hybu buddiannau’r grwpiau hynny a chymryd camau i ddiwallu eu hanghenion. Er mwyn gwneud hyn rydym yn:

Cyfrannu at wireddu Confensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru
Ymladd dros wasanaethau cynaliadwy o ansawdd a chyfran deg i bob plentyn a pherson ifanc
Sicrhau sylw arbennig a thriniaeth ar gyfer plant mewn angen a’r rhai sydd ar y cyrion
Sicrhau bod llais gan blant a phobl ifanc
Mae Plant yng Nghymru’n cynnal nifer o weithgareddau er mwyn cyflawni’r nodau hyn. Mae’r rhain yn cynnwys:

Trefnu cynadleddau a seminarau
Darparu Hyfforddiant
Cefnogi a datblygu rhwydweithiau cryf
Cynhyrchu a lledaenu gwybodaeth
Cynrychioli’r aelodau ac ymgynghori â hwy
Ymchwil