Mae Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol yn grŵp ieuenctid mewn lifrai a gydnabyddir gan yr heddlu, ar gyfer pobl ifanc rhwng 13 a 18 oed.

Nid recriwtio Swyddogion Heddlu yw pwrpas y VPC, ond annog ysbryd antur a dinasyddiaeth dda. Mae Cadét Heddlu yn berson ifanc o unrhyw gefndir sydd ag awydd i ddod i ddeall plismona a chefnogi eu cymuned leol yn unol â’r blaenoriaethau Plismona cyfredol. Mae’r VPC yn annog pobl ifanc i ddatblygu sgiliau bywyd, cwrdd â ffrindiau newydd a chyflawni cymwysterau trosglwyddadwy.

Mae Cadetiaid yr Heddlu yn cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau gwirfoddoli, rhai o’r rhain yw:
• Mynychu sesiynau uned wythnosol
• Cynorthwyo gyda mentrau atal troseddau wedi’u targedu, trwy ddosbarthu taflenni sy’n cynnwys negeseuon allweddol i breswylwyr a busnesau.
• Staff mewn stondinau mewn digwyddiadau cymunedol ac ymgysylltu ag aelodau o’r cyhoedd
• Cynnig cyngor mewn mannau problemus troseddau fel meysydd parcio a chanolfannau siopa.
• Darparu mewnbynnau ynghylch diogelwch ar y ffyrdd a materion eraill i grwpiau cymunedol bach.
• Cymryd rhan mewn gweithrediadau trwyddedu.
• Gweithio gyda Thimau Heddlu Cymdogaeth i roi sicrwydd i gymunedau.
• Cefnogi grwpiau cymunedol
• Gweithio mewn partneriaeth â Chymru yn ei Blodau, Cynghorau Tref Lleol a llawer mwy o asiantaethau.

Os hoffech wybod mwy am Gadetiaid Gwirfoddol HGC, yna dilynwch nhw ar twitter @NWPCadets