Yn Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr rydym yn cynnig gwybodaeth, cymorth a chyfleoedd seibiant byr i ofalwyr o bob oed ledled Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Yn ogystal, rydym yn cynnal prosiect addysg gofalwyr ifanc lle rydym yn cefnogi gofalwyr ifanc 5 – 25 oed i reoli eu rôl gofalu ochr yn ochr â’u haddysg neu eu cyflogaeth trwy waith un i un neu grŵp. Rydym hefyd yn cynnal Prosiect Gofalwyr Ifanc i Oedolion ar gyfer pobl 16 – 25 oed i roi seibiant iddynt o’u rôl gofalu.