Mae Anabledd Dysgu Cymru yn elusen genedlaethol sy’n cynrychioli’r sector anabledd dysgu yng Nghymru. Rydym am i Gymru fod y wlad orau yn y byd i bobl ag anabledd dysgu fyw, dysgu a gweithio.

Rydym yn gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd, llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, sefydliadau pobl anabl a’r sector gwirfoddol fel y gallwn greu Cymru gwell i bawb ag anabledd dysgu.

Sut rydyn ni’n gwneud hyn:

Hysbysu – rydyn ni’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr holl newyddion a materion pwysig, tra bod ein tîm Hawdd Darllen Cymru yn sicrhau bod polisïau ac adnoddau newydd yn hygyrch ac yn hawdd eu deall

Hyfforddiant – rydym yn darparu amrywiaeth eang o gyrsiau hyfforddi ac yn cyflwyno digwyddiadau i helpu pobl i ddeall a dweud eu dweud ar faterion ac ymgynghoriadau newydd

Cynrychioli a herio – mae ein tîm polisi yn sicrhau bod lleisiau pobl ag anabledd dysgu yn cael eu clywed ac yn ymateb iddynt.

Arloesi – sicrhau bod modelau gwasanaeth newydd neu well yn cael eu cyflwyno ar gyfer pobl ag anabledd dysgu. Mae ein prosiectau cyfredol yn cynnwys Engage to Change (helpu pobl ifanc 16-15 oed i gael gwaith parhaus) a Gig Buddies Cymru (mynd i’r afael ag unigrwydd trwy baru oedolion ag anabledd dysgu a hebddo sy’n rhannu’r un peth diddordebau fel y gallant fynychu gigs a digwyddiadau gyda’i gilydd).