‘Mae Llywodraeth Cymru wedi ailgomisiynu Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), mewn partneriaeth ag ETS Cymru, i gyflwyno a datblygu’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, a gydnabyddir yn genedlaethol, hyd nes mis Mawrth 2025.

Mae’r Marc Ansawdd yn ddyfarniad cenedlaethol sy’n cefnogi ac yn cydnabod gwelliant mewn safonau yn narpariaeth a pherfformiad sefydliadau sy’n cyflwyno gwasanaethau gwaith ieuenctid. Er mwyn derbyn yr achrediad, mae’n rhaid i sefydliadau gwaith ieuenctid asesu eu hunain yn erbyn set o safonau ansawdd, a phasio asesiad allanol.

Ers dyfarnu’r contract iddynt yn wreiddiol yn 2020, mae CGA wedi:

  • cwblhau 60 o asesiadau
  • hyfforddi 297 o weithwyr ieuenctid/gweithwyr cymorth ieuenctid
  • hyfforddi grŵp o 46 o aseswyr

Meddai Andrew Borsden, Swyddog Datblygu CGA ar gyfer y Marc Ansawdd “Mae datblygu’r Marc Ansawdd dros y pedair blynedd diwethaf wedi bod yn bleser gwirioneddol. Yn ystod y cyfnod hwn, mae CGA wedi cael y fraint o fod yn dyst i enghreifftiau rhagorol o waith ieuenctid, ac mae cydnabod y cyflawniadau hyn yn ffurfiol trwy ddyfarniad mor fawreddog yn foddhaol tu hwnt”.

Mewn tweet wnaeth darllen;

‘Ry’n ni’n falch o gyhoeddi ein bod ni wedi ein hailgomisiynyu gan @LlywodraethCym i ddarparu a datblygu y marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid, nes mis Mawrth 2025. https://buff.ly/3x3fooA

I ddysgu am waith parhaus CGA, edrychwch ar weddill yr erthygl yma. I ddysgu am waith parhaus CGA, edrychwch ar yr erthygl sy’n weddill. CGA i barhau i gyflwyno’r Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid (ewc.wales)