Yr wythnos hon lansiwyd y cynllun ‘Adnewyddu a Diwygio: Cefnogi  lles a dilyniant dysgwyr’. Ynghyd â hynny roedd Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Addysg a’r Iaith Gymraeg Jeremy Miles, sydd hefyd â Gwaith Ieuenctid yn ei bortffolio.

Dywedodd am y cynllun, ei fod “yn dwyn ynghyd ac yn adeiladu ar yr ymyriadau a’r mentrau llwyddiannus a ddefnyddiwyd dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys cadw a chefnogi dros 1,800 aelod o staff cyfwerth ag amser llawn a recriwtiwyd o dan y rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau.

Gallwch ddarganfod mwy ar wefan Llywodraeth Cymru.