Cryfhau’r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru

Ymunwch â Cangen Ymgysylltu Gwaith Ieuenctid ar gyfer cam nesaf sesiynau ymgysylltu ‘Yr Awr Fawr’.

Cynhaliwyd cyfres o sesiynau ar-lein ‘Yr Awr Fawr’ ym mis Rhagfyr 2023 ac Ionawr 2024 i ymgysylltu â’r sector ar rai themâu allweddol yn ymwneud â chryfhau’r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid. Gallwch ddod o hyd i’r negeseuon allweddol o’r sesiynau hynny yma.

Ers hynny, mae amrywiaeth o bartneriaid a rhanddeiliaid wedi cyfarfod â’r tîm i archwilio’r themâu a’r materion hyn yn fanylach. Mae’r trafodaethau hyn yn helpu i lywio eu gwaith i ddatblygu cynigion i adolygu’r cyfarwyddiadau a’r canllawiau statudol presennol.

Bydd y gyfres nesaf o sesiynau ar-lein ‘Yr Awr Fawr’ yn canolbwyntio ar dri maes penodol:

  • Cynllunio strategol ar gyfer gwaith ieuenctid
  • Atebolrwydd o fewn gwaith ieuenctid
  • Partneriaethau ar gyfer gwaith ieuenctid.

Maent am ymgysylltu â gwahanol grwpiau sy’n ymwneud â gwaith ieuenctid a’r rhai sy’n newydd i’r sector. Bydd cwestiynau allweddol yn cael eu cyflwyno i helpu i gasglu ystod amrywiol o brofiadau a syniadau. Rhoddir rhagor o fanylion am y sesiynau hynny isod. Ymunwch â’r sgwrs os gwelwch yn dda!

 

Cynllunio strategol ar gyfer gwaith ieuenctid

Pwy: Maent am glywed gan ystod o arweinwyr ym maes gwaith ieuenctid a’r rhai sy’n newydd i’r sector, i ddatblygu cylch cynllunio strategol effeithiol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Pryd: 13 Mai 10:00-11:30 neu 24 Mai 13:30-15:00.

 

Atebolrwydd o fewn gwaith ieuenctid

Pwy: Maent am glywed gan ymarferwyr gwaith ieuenctid, gan gynnwys rheini sy’n newydd i’r sector, i helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu fframwaith atebolrwydd effeithiol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru ar bob lefel.

Pryd: 17 Mai 10:00-11:30 neu 7 Mehefin 13:30-15:00.

 

Partneriaethau ar gyfer gwaith ieuenctid

Pwy: Maent am glywed gan y rhai sydd wedi sefydlu perthnasoedd mewn gwaith ieuenctid a’r rhai sy’n newydd i’r sector ac sydd am gyfrannu at gryfhau partneriaethau presennol a hyrwyddo arloesedd.

Pryd: 22 Mai 15:00-16:30 neu 10 Mehefin 10:00-11:30.

 

Sut i gofrestru:

Am fwy o wybodaeth, neu i gofrestru eich lle, e-bostiwch GwaithIeuenctid@llyw.cymru a rhowch wybod i nhw pa sesiwn a dyddiad/amser yr hoffech chi fod yn bresennol. Gallwch fynychu mwy nag un sesiwn.