Nod Urdd Gobaith Cymru yw ‘ rhoi cyfle, drwy gyfrwng y Gymraeg, i blant a phobl ifanc Cymru (rhwng 8 a 25 oed) ddod yn unigolion cyflawn, gan ddatblygu sgiliau personol a chymdeithasol a fydd yn eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’r gymuned ‘.

Gyda’n gilydd rydym yn datblygu eu hyder a’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu hunan-barch a hapusrwydd yn eu bywydau bob dydd ac ar gyfer y dyfodol.

Mae’r Urdd yn agored ac yn gynhwysol gan sicrhau bod pobl ifanc Cymru o bob cefndir cymdeithasol yn cael mynediad rhwydd i’n gwaith. Mae ein darpariaeth yn seiliedig ar hawliau plant gan sicrhau y bydd y Gymraeg yn ffynnu.

Yr Urdd yw’r prif bwynt mynediad ar gyfer cyfleoedd cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc yng Nghymru.

Yn greiddiol i’n huchelgais, mae’r Urdd yn:
• Yn gyfredol i bob
• Yn cyfrannu at ddatblygiad personol a chymdeithasol plant a phobl ifanc
• Ysbrydoli pobl ifanc i ymwneud â’r Gymraeg
• Yn gallu addasu i anghenion pobl ifanc drwy wrando ar eu llais
• Yn berthnasol i blant a phobl ifanc mewn byd sy’n newid yn gyflym.
• Yn sicrhau bod darpariaeth briodol ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn ganolog i holl wasanaethau a chyfleoedd yr Urdd

Mae’r ddarpariaeth yn cynnwys:

• Gwaith Ieuenctid yn cynnwys Fforymau ieuenctid, Gwirfoddoli, Achrediadau, Cymraeg pob dydd, Cwmni Theatr
• Darpariaeth cymunedol
• Gwersylloedd yr Urdd, Caerdydd, Llangrannog, Glan-llyn, Pentre Ifan a Hwngari
• Chwaraeon
• Rhaglen prentisiaethau Cyfrwng Cymraeg
• Celfyddydau a’r Eisteddfod
• Gwasanaethau Awyr Agored
• Heddwch, dyngarol a rhyngwladol

Mae darpariaeth yr Urdd yn seiliedig ar lais ein haelodau. Gyda dau Ymddiriedolwr ifanc, mae rhwydwaith o ffurfiau ieuenctid rhanbarthol a’r Fforwm Ieuenctid Cenedlaethol (Bwrdd Syr IfanC) yn sicrhau bod llais ein haelodau wrth wraidd ein sefydliad.