Join the Keeping safe online youth group – Hwb

A national initiative that empowers young people to shape the future of online safety in Wales, the group is open to learners aged 13 to 16. The group brings together diverse voices from across the country to share experiences, discuss digital trends, and advise on the challenges young people face online.

Participants will:

  • join at least 4 virtual meetings between November 2025 and March 2026
  • attend one in-person event, typically aligned with Safer Internet Day
  • contribute to creative projects, such as short videos and feedback on Keeping safe online content
  • help shape advice for schools, families, and other young people

The group is facilitated by Praesidio Safeguarding, a globally recognised online safety agency, and aims to create an inclusive, respectful space for all participants. Applications are especially encouraged from individuals in underrepresented communities, including ethnic minorities, LGBTQ+ youth, disabled learners, and those with lived experience of care or migration.

Expressions of interest: Complete the expression of interest survey by 5pm on Friday 26 September for a chance to have your voice heard. If you have any questions, or to find out more, contact Praesidio Safeguarding.

Ymunwch â’r grŵp ieuenctid Cadw’n ddiogel ar-lein – Hwb

Menter genedlaethol sy’n agored i ddysgwyr rhwng 13 ac 16 oed, sy’n grymuso pobl ifanc i lunio dyfodol diogelwch ar-lein yng Nghymru. Mae’r grŵp yn dod â lleisiau amrywiol o bob cwr o’r wlad ynghyd i rannu profiadau, trafod tueddiadau digidol, a chynghori ar yr heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu ar-lein.

Bydd cyfranogwyr yn:

  • ymuno ag o leiaf 4 cyfarfod rhithiol rhwng Tachwedd 2025 a Mawrth 2026
  • mynychu un digwyddiad wyneb yn wyneb, sy’n debygol o fod yn cyd-fynd â Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel
  • cyfrannu at brosiectau creadigol, megis fideos byr ac adborth ar gynnwys Cadw’n ddiogel ar-lein
  • helpu i lunio cyngor i ysgolion, teuluoedd, a phobl ifanc eraill

Mae’r grŵp yn cael ei hwyluso gan Praesidio Safeguarding, asiantaeth diogelwch ar-lein a gydnabyddir yn fyd-eang, a’i nod yw creu gofod cynhwysol, parchus i’r holl gyfranogwyr. Anogir ceisiadau’n arbennig gan unigolion mewn cymunedau sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys lleiafrifoedd ethnig, pobl ifanc LHDTC+, dysgwyr anabl, a’r rhai sydd â phrofiad byw o fod mewn gofal neu fudo.

Datganiadau o ddiddordeb: Cwblhewch yr arolwg datganiad o ddiddordeb erbyn 5pm ddydd Gwener 26 Medi er mwyn cael cyfle i leisio’ch barn.Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Praesidio Safeguarding.