Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid – Awst 2023: Fel y trafodwyd yn flaenorol gyda’r sector, bydd y Bwrdd yn rhoi diweddariad rheolaidd ar gynnydd bob 6 wythnos i sicrhau bod pawb yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau. Mae gwaith y Bwrdd yn parhau ar gyflymder yn ystod y cyfnod hwn. Hoffai Sharon ac aelodau’r Bwrdd ddiolch i chi am eich hymrwymiad parhaus wrth i ni fwrw ymlaen i weithredu’r argymhellion yn Mae’n Bryd Cyflawni. Gweler isod y diweddariad hwn: 1) Lansiwyd Sharon y Wobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid ar gyfer eleni yn ystod wythnos gwaith ieuenctid ac mae’r enwebiadau bellach ar agor – mae gennych tan 29 Medi i wneud eich enwebiadau. Ceir gwybodaeth am y categorïau eleni yma: Am y gwobrau | LLYW.CYMRU. Dylech ystyried gwneud cais er mwyn dathlu’r holl waith ieuenctid gwych yng Nghymru a chydnabod yr unigolion sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc. 2) Cyfarfu’r grŵp gorchwyl a gorffen ar gyfer cryfhau’r ddeddfwriaeth ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru yn ystod mis Gorffennaf. Mae’r grŵp yn cynnwys Sharon Lovell, Lowri Jones, Shahinoor Alom, Jo Simms a Dr Simon Stewart. Mae Gethin Jones wedi dechrau ei secondiad gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi gwaith y Bwrdd yn y maes hwn. Rydym wedi bod yn datblygu ein syniadau a datblygu cynigion i’r Gweinidog ar sut i sicrhau bod y fframwaith deddfwriaethol yn cael ei gryfhau. Yn dilyn ystyriaeth y Gweinidog, ein nod yw rhannu rhagor o wybodaeth â chi ym mis Hydref. Bydd y Bwrdd yn sicrhau ein bod yn ymgysylltu cynhwysfawr â’r sector yn sail i’r gwaith hwn fel bod unrhyw ddatblygiad yn parchu cyd-destunau lleol a’n bod yn cymryd ymagwedd sector gyfan trwy adeiladu o sefyllfa o gonsensws. 3) Mae llawer o’r Grwpiau Cyfranogiad Gweithredu (GCG) wedi cyflwyno eu cynlluniau gwaith a bydd swyddogion/y Bwrdd yn casglu’r camau hyn at ei gilydd i greu un Cynllun Gweithredu y byddwn yn ei rannu âchi yn yr Hydref. Rydym hefyd yn cynllunio digwyddiadau ymgysylltu ar gyfer pob un o ffrydiau gwaith y Grwpiau Cyfranogiad Gweithredu a byddwn yn rhoi gwybod i chi am y dyddiadau hyn. 4) Gan weithio gyda swyddogion, rydym wrthi’n trefnu i gynnal cyfarfod nesaf y Bwrdd yn Nhorfaen lle byddwn yn cyfarfod dros 2 ddiwrnod. Un o’r materion y byddwn yn eu trafod fydd rôl a chylch gwaith corff cenedlaethol. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at ymweld ag ystod o ddarpariaethau ieuenctid o bob rhan o’r rhanbarth gyda’r nos ar 5ed Hydref. 5) Mae Swyddog Datblygu’r Gweithlu wedi’i benodi ac mae disgwyl iddo ddechrau yn y rôl ar 15 Medi. Bydd cyhoeddiad ffurfiol yn cael ei wneud gan Safonau Addysg Hyfforddiant yn fuan. Mae’r Bwrdd yn edrych ymlaen at weithio gyda chi i gyd ymhellach wrth i ni symud ymlaen i’r Hydref. | Youth Work Strategy Implementation Board update – August 2023: As previously discussed with the sector, the Board will be providing a regular update on progress every 6 weeks to ensure everyone has the latest information on developments. The Boards work continues at speed during this time. Sharon and Board members wish to thank you for all your continued commitment as they drive forward the recommendations in Time to Deliver. Please find below the board’s updates in this addition: 1) Sharon recently launched the Youth Work Excellence Awards for this year during youth work week and the nominations are now open – you have until the 29th of September to make your nominations. Please find information on this year’s categories here: About the awards | GOV.WALES. Please do consider applying to have all the fantastic youth work in Wales celebrated and recognise the individuals making a difference to the lives of young people. 2) The strengthening legislation for youth work in Wales task and finish group have met during the month of July. This group includes Sharon Lovell, Lowri Jones, Shahinoor Alom, Jo Simms and Dr Simon Stewart. Gethin Jones has commenced his secondment with Welsh Government to support the Boards work in this area. We have been developing our thinking and developing proposals for the Minister to ensure the legislative framework is strengthened. Following Ministerial consideration, we aim to share further information with you in October. The Board will ensure that comprehensive engagement with the sector underpins this work so that any development respects local contexts and that we take a whole sector approach and build from a position of consensus. 3) Many of the Implementation Participation Groups (IPGs) have submitted their work plans and officials/the Board will be collating these actions into one Implementation Plan which we will be sharing with you in the Autumn. We are also planning engagement events for each of the IPG workstreams and will keep you informed of these dates. 4) Working with officials we are putting together plans in Torfaen to host the next Board where we will be meeting over 2 days and one of our discussions will focus on the role and remit of a national body. We are also looking forward to visiting a range of youth provisions from across the region the evening of the 5th October. 5) A Workforce Development Officer has been appointed and is expected to start in the role on 15th September. There will be a formal announcement made by ETS soon. The Board look forward to working with you all further as we move into the Autumn. |