CWVYS The Independent Voice of the Voluntary Youth Sector in Wales

CWVYS logo

Hyfforddiant ac Ansawdd

Cyfraniad CWVYS at hyfforddiant a sicrhau ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol yng Nghymru


Hyfforddiant ac Ansawdd

Ansawdd
Mae CWVYS a sefydliadau aelod yn cydsynio â Datganiad Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid Cymru a ddatblygwyd gan y maes gwaith Ieuenctid gan gynnwys CWVYS. Mae’n nodi y dylai holl arferion gwaith ieuenctid fod yn Addysgiadol, yn Fynegiannol, yn Grymusol yn Gyfranogol ac yng nghyd-destun Cyfleoedd Cyfartal.
 
 
Hyfforddiant Gwaith Ieuenctid
Mae gwaith ieuenctid yn faes proffesiynol gyda’i safonau galwedigaethol a llwybrau hyfforddiant ei hun. Seilir rhai o’r llwybrau hyfforddi mewn gwaith gyrfaol a disgrifir y rhain fel ‘y Llwybr cydlynol yng Nghymru’, sy’n arwain at gymwysterau cydnabyddus a chymeradwyaeth broffesiynol ar bob lefel, sydd yn galluogi pobl i weithio o fewn yr Awdurdodau Lleol a mannau eraill o dan amodau'r PNC (Pwyllgor Negodi Cyfunol dros waith ieuenctid).
 
Datblygwyd cynllun datblygu gweithlu trwy Strategaeth y Gwasanaeth Ieuenctid.  Mae CWVYS yn chwarae rhan i’w weithredu.
 
Safonau galwedigaethol gwaith ieuenctid
Mae'r rhain wedi cael eu diwygio gan LLUK ac maent ar gael yma
 
 
Pwyllgor Hyfforddiant
Mae Pwyllgor Hyfforddiant CWVYS yn cyfarfod bob 2 fis ac mae’n gyfrifol am:
  • Drafod datblygiadau strategol yn y sector gwaith ieuenctid a sut y maent yn dylanwadu ar y mudiadau gwirfoddol
  • Ymateb i ymgynghoriadau am hyfforddiant yn y sector
  • Rhedeg cyrsiau gwaith ieuenctid achrededig a rhai nas achredir ar gyfer y sector mewn partneriaeth ag asiantaethau hyfforddi
  • Rhedeg cyrsiau a chynadleddau o ddiddordeb penodol ac sy’n berthnasol i’r sector
Pwyllgor Hyfforddiant Aelodau CWVYS gweler isod
 
Comisiwn Elusennau
Dilynwch y ddolen isod i weld y cylchlythyr gan y Comisiwn Elusennau, sydd yn hysbysu ymddiriedolwyr am faterion pwysig yn effeithio ar elusennau.
 

LSIS
LSIS yw’r Cyngor Sgiliau i’r Sector sydd â chyfrifoldeb am gynllunio strategol ar gyfer datblygu’r gweithlu, ac am safonau a chymwysterau mewn gwaith ieuenctid. Ceir 5 maes sy’n ymwneud ag addysg. Cynhwyswyd gwaith ieuenctid yn y maes Dysgu a Datblygu Cymunedol (CLD). Prif Weithredwr CWVYS sy’n cynrychioli’r sector ieuenctid gwirfoddol ar banel maes CLD yn y DU ac yng Nghymru ac mae ganddi le ar banel gwlad Cymru sy’n ystyried cyfeiriad strategol ym mhob maes.
 
LSIS
 
Archwiliad Hyfforddiant CWVYS
Comisiwynwyd a chyhoeddwyd adroddiad yn ddiweddar gan Gyngor Ieuenctid Cymru am archwiliad o hyfforddiant yn sefydliadau aelod CWVYS.

Dangosodd yr archwiliad fod gan bob sefydliad drefniadau sefydlu a hyfforddiant pellach i bob arweinydd oedolion, yn staff gwirfoddol ac yn staff cyflogedig. Mae gan y rhan fwyaf o sefydliadau arfarniadau cyfnodol i gefnogi datblygiad personol gweithwyr gydag amrywiaeth o wahanol fethodolegau. Mae pob sefydliad yn annog pobl ifanc i gymryd rôl arweinyddiaeth ac mae llawer yn darparu hyfforddiant anffurfiol a ffurfiol.

Mae llawer sefydliad yn ariannu rhan fwyaf eu hyfforddiant o’u hadnoddau eu hunain; mae’n anodd cael nawdd ac mae’n dod o amrywiaeth o ffynonellau. Er bod gan rai sefydliadau berthynas dda ag Awdurdodau Lleol mewn perthynas â hyfforddiant, nid oes gan y mwyafrif fawr o gysylltiad os o gwbl. Ni cheir fawr o gymorth gydag ariannu hyfforddi mewnol neu ymgynghori am gynnwys hyfforddiant y gallai mudiadau gael gwahoddiad i ymuno ynddo ar adegau.
 
 
Cynadleddau CWVYS
RHEOLI NEWID CHWALU RHWYSTRAU: Egwyddorion ac arfer rhoi’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ar waith i’r Sector Ieuenctid Gwirfoddol
Dydd Sadwrn 8 Hydref 2005 Ysgol a Chanolfan Adnoddau Trinity Fields, Ystrad Mynach

Nod y gynhadledd oedd galluogi pobl ifanc anabl i gyfranogi yn y ddarpariaeth ieuenctid o’u dewis drwy hyrwyddo mynediad ac arfer da mewn gwasanaethau cyffredinol.

 
Mae Taflenni Cynhadledd gan gynnwys rhestr o gysylltiadau defnyddiol ar gael. Cysylltwch a CWVYS
 
YMGYSYLLTU'R SECTOR GWIRFODDOL YN LLWYBRAU DYSGU 14 - 19
19 Mai 2006, Y Pafiliwn, Llandrindod
Gweler y dudalen Cyhoeddiadau am yr adroddiad
 
CYFRANOGIAD IEUENCTID YN Y SECTOR GWIRFODDOL - MODELAU AC YSTYRON
27 Mehefin 2007, Canolfan Adnoddau'r Cyfryngau, Llandrindod
Adroddiad yn cael ei baratoi
 
YMGYSYLLTU'R SECTOR GWIRFODDOL YN LLWYBRAU DYSGU 14 - 19
5 Gorffennaf 2007, Y Pafiliwn, Llandrindod
Adroddiad yn cael ei baratoi
 
Ysgrif lawrlwytho: CWVYS Training Committee Size: [14 KB] File Type: [.pdf]