Mae CWVYS wedi derbyn a grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal astudiaeth dichonolrwydd gyda golwg ar y posibilrwydd o gael ei gydnabod fel Corff Dyfarnu credyd trwy Fframwaith Credyd a Chymwysterau Cymru (CQFW) yn y sector anffurfiol, yn enwedig i weithwyr ieuenctid a phobl ifanc.
Bydd y gwaith mewn tri chymal, a’r bwriad yw cwblhau’r cymal cyntaf (ymchwil gydag aelodau CWVYS (a’r sector gwirfoddol ehangach) erbyn 30 Medi 2008??. Yn y cymal hwn bydd yr ymchwil yn canolbwyntio ar:
• ystyried a oes angen rhaglen o’r fath;
• a fyddai aelodau CWVYS (a’r sector gwirfoddol ehangach) yn ei defnyddio;
• pa brofiad sydd gan yr aelodau o CQFW ;
• yr anawsterau potensial sydd gan yr aelodau gyda CQFW.
Gweler y dogfennau isod am adroddiad llawn
Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru:
Crynodeb o’r Adroddiad Interim ar Gymal 2
Cefndir
Yng ngwanwyn 2008 dyfarnwyd grant i CWVYS gan Lywodraeth Cynulliad Cymru dan yr enw:
‘cynnig i Fframwaith Credyd a Chymwysterau Cymru (CQFW) gefnogi Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS) i ymchwilio i’r dull mwyaf priodol o ennill cydnabyddiaeth i ddysgu anffurfiol, trwy hyfforddiant a phrofiadau eraill i bobl ifanc ac i’r sector ieuenctid gwirfoddol ehangach’
Cwblhawyd Cymal 1 ym mis Mawrth 2009.
Dyfarnwyd grant pellach i CWVYS gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal Cymal 2 o’r prosiect hwn 2.
Bydd Cymal 2 yn ymwneud â’r gwerthusiad canlynol i benderfynu ar y ffordd orau ymlaen i CWVYS ddyrannu a/neu ddyfarnu credyd, a bydd yn cynnwys y canlynol:
? Adnabod yr adnoddau a’r gallu potensial gofynnol i CWVYS ddyrannu a/neu ddyfarnu credyd; cynnig cyngor, gwasanaethau ymgynghori a sicrwydd ansawdd canolog i aelodau CWVYS a’r sector ieuenctid gwirfoddol ehangach
? Gwerthuso sut y gallai CWVYS gydweithio â chyrff cydnabyddedig eraill i ddyrannu a/neu ddyfarnu credyd
? Datblygu cynllun busnes ar gyfer y 3-5 mlynedd nesaf
? Datblygu achos busnes ar gyfer prosiect Cymal 3 - sef gweithredu canlyniadau Cymal 2 , gan ddibynnu ar ddangos canlyniadau boddhaol yng Nghymal 2 o’r ymchwil ac ymgynghori â Changen Strategaeth Gwaith Ieuenctid LlCC.
Grwp Llywio
Mae gan y prosiect Grwp Llywio o Swyddogion CWVYS a chynrychiolwyr LlCC. Mae Pwyllgor Hyfforddi CWVYS yn derbyn bwletinau rheolaidd ar gynnydd, ac mae’n adrodd wrth Bwyllgor Gwaith CWVYS.
Tîm y Prosiect
Penodwyd tîm i’r Prosiect yn cynnwys Cyfarwyddwr, tri ymchwilydd a gweinyddwraig ran-amser ym mis Hydref 2009.
Oddi ar Hydref 2009 mae Ymchwilwyr Tîm y Prosiect wedi bod ar y maes yn cynnal cyfweliadau gyda’r Grwp Ymchwil. Gwnaed cynnydd sylweddol o ran cysylltiadau cychwynnol, egluro’r prosiect, y rhesymeg y tu ôl i Gymal 2 a roliau a chyfrifoldebau Ymchwilwyr mewn perthynas â Chymal 2 yn unol â chyngor Cyfarwyddwr y Prosiect. Cyflwynwyd adroddiadau ymchwil i Gyfarwyddwr y Prosiect yn amlinellu atebion i’r cwestiynau hyd yn hyn.
Methodoleg
Penderfynwyd o’r cychwyn fod tystiolaeth yn hollbwysig i unrhyw system o gredyd o safbwynt cynhyrchu ac asesu ill dau. Mae’r dulliau o gasglu tystiolaeth yn seiliedig ar y normau a ganlyn:
• Ysgrifenedig
• Arsylwi ac adroddiad neu werthusiad gan y sawl sy’n wrthrych arsylwi
• Gwaith prosiect
• Portffolios a allai gynnwys ffilm ddogfen, cynhyrchiad theatr, bwrdd sori ayb, h.y. ar wahân i fformat ysgrifenedig.
Cydnabuwyd, fodd bynnag, y gallai fod yn bosibl yn y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol i adnabod modelau eraill o gasglu tystiolaeth lle bydd y corff dyfarnu a’r bobl sy’n ceisio credyd yn cytuno ar sut i gasglu tystiolaeth. Cydnabuwyd ymhellach na fyddai cytundeb gan y corff dyfarnu i gymeradwyo’r cynllun o reidrwydd yn gwarantu asesiad llwyddiannus a dyfarnu credyd. Yn ogystal, barnwyd y gallai fod yn bosibl dylunio prosiectau i grwpiau lle mae nifer o bobl yn ennill credyd am y gweithgaredd ac am ddarparu tystiolaeth. Gellid ystyried hyn fel eu cyfraniad tuag at y broses o gasglu tystiolaeth. Fel enghraifft awgrymwyd y gallai sawl aelod o un sefydliad gwblhau prosiect gyda’i gilydd. Byddai hyn yn cydnabod eu gwahanol brofiadau a’u roliau yn y sefydliad: gallai gweithiwr/wraig ieuenctid gyfrannu at ddylunio’r prosiect a’i ddarparu a gallai pobl ifanc gyfrannu at y dyluniad gan gynnal y prosiect a chasglu tystiolaeth o’u dysgu trwy’r prosiect hwnnw.
Cytunwyd ar hwn fel fformat methodoleg yr ymchwil a chytunwyd ymhellach i ffurfio categorïau o weithwyr cyflogedig, gwirfoddolwyr a phobl ifanc yn seiliedig ar y modd a’r cyd-destun a amlinellir yn y tabl uchod.
Grwp Ymchwil
O’r pum sefydliad sy’n cymryd rhan, mae tri’n gweithredu ar lefel; genedlaethol, ac mae’r ddau arall yn darparu gwasanaethau’n lleol.
Hayley Wood
Cyfarwyddwr y Prosiect
08/12/09