CWVYS The Independent Voice of the Voluntary Youth Sector in Wales

CWVYS logo

CWVYS - Amdanom Ni!

Pwy yw Cyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cymru ?


CWVYS yw’r corff ambarél ar gyfer y sector ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru. Mae’n gorff elusennol annibynnol sy’n hyrwyddo gwaith ieuenctid o ansawdd ac yn cynrychioli buddiannau ei aelodau a buddiannau ehangach.
 
Gweler y dogfennau i’w lawr-lwytho isod am gopi o lyfryn CWVYS

Amcan penodol CWVYS o’r cyfansoddiad

‘ Addysgu a helpu pobl ifanc i ddatblygu eu gallu corfforol, meddyliol, diwylliannol ac ysbrydol er mwyn iddynt aeddfedu’n llawn fel unigolion ac aelodau o’r gymdeithas drwy hwyluso cymorth cilyddol a chydweithrediad ymhlith mudiadau ieuenctid gwirfoddol, y Gwasanaeth Ieuenctid ac asiantaethau cysylltiedig eraill yng Nghymru.’

Gweler y dogfennau isod am Femorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu CWVYS (yn Saesneg)

Aelodaeth

Daw aelodau CWVYS o fudiadau ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol a lleol yng Nghymru. Mae aelodaeth yn agored i’r holl fudiadau gwirfoddol sy’n cytuno â nod y Cyngor ac sy’n rhannu ei gylch gorchwyl ar gyfer gwaith ieuenctid. Mae 54 o fudiadau’n aelodau ym mis Ionawr 2010, 31 o fudiadau cenedlaethol a 23 asiantaeth gymunedol leol neu ranbarthol. Mae’r aelodau’n cydweithio gyda mwy na 250,000 o bobl ifanc 11 – 25 oed. I rai mae yna bwyslais ar ystod oedran 13 – 19, er bod amrywiaeth y sector yn golygu bod mudiadau’n ymdrin ag ystod oedran ehangach sy’n cynnwys plant, ac oedolion dros 25 oed.

Aelodau ym mis Ionawr 2010

Strwythur a Llywodraethu

Mae Cyngor CWVYS yn cynnwys dau gynrychiolydd o bob sefydliad aelod a chadeirydd mygedol. Mae’r Pwyllgor Gweithredol, sef corff llywodraethu CWVYS, yn cynnwys deg cynrychiolydd o fudiadau cenedlaethol a deg mudiad gwirfoddol lleol yn ogystal â swyddogion sy’n cael eu hethol yn flynyddol.
 
Pwyllgor Gweithredol 2009 - 10
 
Mudiadau Cenedlaethol:
 
Nia Lloyd
CFFI Cymru
Grant Poiner
CYP Wales
Efa Gruffudd Jones
Urdd Gobaith Cymru
Dyfrig Morgan
Urdd Gobaith Cymru
Keith Thomas
Youth Cymru
Stephanie Price
Gwobr Dug Caeredin
Pam Gay
Girlguiding Cymru
Cathie Robins-Talbot
Cymdeithas Prydeinig y Byddar
Peter Mullings
Reserve Forces & Cadets Association, Wales
Sheila Smith
UNA Exchange
 
Mudiadau Cymunedol:
Marco Gil-Cervantes
ProMo Cymru
Pauline Richards
Valleys Kids
David Schofield
Canolfan Cwmbran i Bobl Ifanc
Helen Robins-Talbot
Talking Hands - Abertawe a Chastell Nedd Port Talbot

Hanes
Sefydlwyd CWVYS yn wreiddiol yn 1974 gan y Pwyllgor Sefydlog yng Nghymru o Fudiadau Ieuenctid Gwirfoddol, a sefydlwyd yntau yn 1947. Derbyniodd gyllid craidd gan y Swyddfa Gymreig ac yr oedd ganddo ei swyddfeydd a’i staff ei hun tan 1992, adeg sefydlu Cyngor Ieuenctid Cymru (CIC).
 
Gwnaed rhaglen waith CWVYS wedi hynny gan CIC trwy gytundeb lefel gwasanaeth. Yn 2001, yn sgîl datganoli, aeth CWVYS ati i arolygu ei gynlluniau strategol i'r dyfodol, mewn ymateb i’r newidiadau polisi yng Nghymru ar y pryd.
 
Yn dilyn negodi gyda Thîm Polisi Ieuenctid Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC), fel yr oedd ar y pryd, penderfynwyd rhoi cyllid craidd i CWVYS gyflogi Prif Weithredwr i’w wneud yn fwy annibynnol, tra’n dibynnu o hyd ar CIC am swyddfa a chymorth gweinyddol.
 
Wedi i CIC gau ar ddiwedd 2005, daeth CWVYS yn gwbl annibynnol unwaith yn rhagor gyda’i swyddfa a’i staff gweinyddol ei hun ym Mae Caerdydd.

CWVYS erbyn hyn
Ers iddo ddod yn annibynnol ar CIC, mae CWVYS wedi dod yn fwy hunanlywodraethol gyda hunaniaeth fwy diffiniedig ar wahân sy’n ei gwneud yn haws i’r maes Gwaith Ieuenctid ddeall natur ei waith. Er ei fod yn derbyn cyllid gan y Cynulliad Cenedlaethol gan gytuno ar gynllun gweithredu i dderbyn y cyllid hwnnw, mae’n annibynnol o LlCC ac fe’i hystyrir fel llais annibynnol y sector ar faterion y llywodraeth mewn perthynas â pholisi gwaith ieuenctid.

Staff CWVYS
Prif Weithredwr                            Paul Glaze
 
Swyddfa
CWVYS
Ty Baltic
Sgwar Mount Stuart
Caerdydd
CF10 5FH
 
Ffon: 02920 473498
Ffacs: 02920 451245
Rhif Elusen Gofrestredig : 1110702
Rhif y Cwmni : 5444248
 
 
Cyllid
Caiff CWVYS grant craidd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae nawdd arall yn cynnwys arian o ffioedd aelodaeth, grantiau drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i gefnogi CWVYS fel y Rhwydwaith Ieuenctid yn y cynllun Sector Gwirfoddol a grantiau penodol ar gyfer prosiectau a nodwyd gan ymddiriedolaethau elusennol.