Mae
Prosiect Ieuenctid Tanyard
yn darparu amrediad eang o wasanaethau cefnogi i bobl ifanc 10 - 25 oed mewn awyrgylch diogel a chroesawgar. Y ddarpariaeth greiddiol yw’r gwasanaeth galw-i-mewn, sydd ar agor bum niwrnod yr wythnos, gan gynnwys nos Wener a phnawn dydd Sadwrn, lle y gall pobl ifanc wneud defnydd cadarnhaol ac adeiladol o’u hamser hamdden, cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau, tripiau a Gwobr Dug Caeredin. Rydym yn rhedeg gwasanaeth galw heibio i bobl ifanc sydd heb fod mewn addysg, gwaith na chwrs hyfforddi, sy’n cynnwys clwb gwaith, datblygiad personol a chymdeithasol a sgiliau byw annibynnol. Cynhelir hwn am dri phnawn bob wythnos. Llenwir gweddill yr amser â gwaith ar gwricwlwm amgen mewn partneriaeth â’r ysgolion lleol. Rydym yn rhedeg cwrs RhCA mewn sgiliau galwedigaethol, technoleg cerdd a chynhyrchu ffilmiau. Cynhelir y ddau olaf hyn yn ein stiwdio celf, cerdd a ffilm newydd: Yr Iard Gychod. Stiwdio ffilm a cherdd yr Iard Gychod yw lleoliad ein gweithdai a’n gweithgareddau yn ystod y gwyliau hefyd yn aml.
I grynhoi, mae gan y Tanyard dri gwasanaeth gwahanol ond cysylltiedig sy’n cynnig 44 awr o hyfforddiant ffurfiol, anffurfiol neu hamdden, am 6 diwrnod y flwyddyn, hanner can wythnos y flwyddyn.