Mae YMCA Cymru’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar draws Cymru i ddarparu cyfleoedd addysg anffurfiol a datblygiad personol. Credwn fod gan blant a phobl ifanc hawl i gael gwrandawiad a byddwn yn pwyso o blaid eu cynnwys a’u galluogi ar bob lefel yn ein gwaith.
Mae pob cymdeithas leol yn darparu rhaglen lawn o weithgareddau gan gynnwys chwaraeon, TG, cerddoriaeth, celf, gwybodaeth a chyngor, ynghyd â llawer mwy!
Dewch draw i’n gweld i’n canolfan addysg awyr agored yn Sir Benfro
www.newgaleymca.co.uk