Mae YHA
yn elusen sydd â chenadwri glir, sef ysbrydoli pawb, a phobl ifanc yn arbennig, i ehangu eu gorwelion, gan ddysgu ac ennill annibyniaeth trwy brofiadau anturus a darganfyddiadau newydd.
Mae gennym rwydwaith o wahanol hosteli ar draws Cymru a Lloegr - a nifer mawr ohonynt mewn lleoliadau eithriadol. Mae’r lleoedd croesawgar a chymdeithasgar hyn yn agored i bawb. Mae gennym gredoau cadarn ac rydym yn angerddol dros ein gwaith. Trwy annog ysbryd anturus, ein nod yw ysbrydoli pobl o bob oed i ddarganfod y byd o’n cwmpas
.