Mae
Ieuenctid Cymru
yn elusen flaenllaw mewn gwaith ieuenctid yng Nghymru, a adwaenid cyn 7 Gorffennaf 2003 fel Cymdeithas Clybiau Ieuenctid Cymru.
Roedd y Gymdeithas wedi bod yn un o’r prif sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru, gan ymateb i anghenion pobl ifanc ers rhagor na thrigain mlynedd.
Prif fwriad Ieuenctid Cymru yw cynorthwyo gweithwyr ieuenctid, arweinwyr clybiau a phwyllgorau rheoli i ddatblygu eu rhaglenni ac ymateb i flaenoriaethau pobl ifanc. Yn ogystal, mae’n hyrwyddo prosiectau sy’n ymateb i anghenion penodol pobl ifanc ar lefel leol a chenedlaethol. Mae’n noddi nifer o ddigwyddiadau lleol a rhanbarthol y mae rhai ohonynt yn arwain at gystadlaethau cenedlaethol, ac mae’n darparu rhaglen gynhwysfawr o hyfforddiant i arweinwyr, aelodau a phwyllgorau mewn clybiau a phwyllgorau. Mae Ieuenctid Cymru yn arddel egwyddorion adroddiad y Cynulliad Cenedlaethol ar ‘Ymestyn Hawliau; ac mae’n ceisio datblygu darpariaeth ieuenctid a chynnwys pobl ifanc trwy bartneriaethau ag awdurdodau lleol, cyrff gwirfoddol lleol a chenedlaethol a grwpiau cymunedol. Mae’n dilyn canllawiau’r Datganiad ar y Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid wrth gynllunio’i weithgareddau