CWVYS The Independent Voice of the Voluntary Youth Sector in Wales

CWVYS logo

Viva! Project

CWVYS Member
Morgan Street
Pontypridd

Gwybodaeth i Aelodau

Elusen gofrestredig yw Viva! sy’n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf.  Sefydlwyd Viva! yn 1992 i hwyluso a chreu cyfleoedd hamdden a hyfforddi o ansawdd ar gyfer pobl ifanc abl ac anabl.
Cenhadaeth Viva! yw galluogi a chefnogi’r bobl ifanc sy’n aelodau i chwarae rhan lawn mewn gweithgareddau yn y gymuned.  Y nod yw herio’r aelodau i feithrin eu dyheadau ac ehangu eu profiadau a’u gallu gan eu hannog i ddod yn fwy annibynnol a gwneud eu dewisiadau eu hunain ar sail gwybodaeth.  Ar yr un prud rydym y disgwyl codi ymwybydfdiaeth yn y gymuned i dderbyn t pobl ifanc anable fel dinasyddion gwerthfawr.
Mae ein haelodau’n cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau a ddewisir ganddynt  - o ddylunio a dewis cynnwys y daflen weithgareddau bob mis, i brosiectau amgylcheddol, gwibdeithiau, bowlio, nofio, dring creigiau, sinema, theatr, celf a chrefft, drama, gweithdai cerdd ,gweithgareddau awyr agored, chwaraeon, cyrsiau coginio a digwyddiadau yn y gymuned leol.  Mae’r aelodau’n cymryd rhan hefyd yn ein rhaglen Iechyd a Lles.