Mae Urdd Gobaith Cymru yn gorff bywiog yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc, Sefydlwyd yr Urdd bron 90 o flynyddoedd yn ôl ac mae’n cynnig profiadau gwych i bobl ifanc. Mae gan yr Urdd 50,000 o aelodau ac mae siaradwyr Cymraeg a dysgwyr Cymraeg yn chwarae rôl hanfodol yn y mudiad. Mae gan yr Urdd dîm o staff sy’n gweithio ledled Cymru i gynorthwyo dros 900 o ganghennau. Yn ogystal mae gan yr Urdd dair canolfan breswyl: Llangrannog, Glan-llyn a chanolfan ddinesig yr Urdd ym Mae Caerdydd. Mae gan yr Urdd enw da am ei weithgareddau chwaraeon, mae’n cyhoeddi tri chylchgrawn misol ac mae’n cynnal Eisteddfod yr Urdd, sef gwyl ddiwylliannol ieuenctid Cymru, bob blwyddyn.