Mae UnLtd
- y Sefydliad i Entrepreneuriaid Cymdeithasol - am gefnogi a datblygu rôl entrepreneuriaid cymdeithasol fel mudiad dros newid er gwell yn y Deyrnas Unedig.
Mae UnLtd yn elusen sy’n ariannu prosiectau newydd a chyffrous a redir gan bobl ddeinamig. Rhaid i’r prosiectau hyn gael effaith er gwell ar gymdeithas ac ar y gymuned ehangach ac yn ogystal herio pobl a fydd yn eu rhedeg i ddysgu.
Ein cenadwri yw ymestyn a rhyddhau egni pobl fel grym i adfywio’u cymunedau.
Yng Nghymru rydym yn cynnig cyfleoedd blynyddol i rwydweithio, yn cyfeirio pobl at fudiadau lleol a darparu person cyswllt lleol o fewn UnLtd i gynnig cymorth unigol. Mae ein swyddfa yng Nghaerdydd ond rydym yn gwasanaethu Cymru gyfan, gan gynnwys tripiau bob mis i’r gogledd a’r gorllewin i gefnogi darpar ymgeiswyr a rhai sydd wedi ennill ein gwobrau.