Elusen gofrestredig yw
Theatr Fforwm Cymru a gychwynnwyd yn 1993. Ei brif ffocws yw gweithio gyda phobl ifanc a hyfforddi gweithwyr ieuenctid mewn datblygu deallusrwydd emosiynol. Mae gan y cwmni gryn lawer o brofiad o weithio gyda phobl ifanc ddiymgeledd a rhai sydd wedi ymddieithrio. Mae’r gwaith yn cynnwys pecyn offer o ddulliau a thechnegau gan gynnwys Theatr y
Gorthrymedig (theatr fforwm yn enwedig), dadansoddiad rhyngweithredol, gwaith mewn cylch, technoleg gofod agored, seicoleg bositif, niwrowyddoniaeth a bod yn feddylgar.
Mae’r cwmni wedi gweithio’n helaeth yng Nghymru a ledled Dwyrain a Gorllewin Ewrop, lle Maent wedi darparu hyfforddiant i lawer o weithwyr ieuenctid. Mae’r bobl ifanc sydd wedi gweithio’n uniongyrchol gyda’r cwmni dros y 18 mlynedd yn dweud bod y gwaith wedi rhoi iddynt iaith i ddeall y byd sy’n para.