CWVYS The Independent Voice of the Voluntary Youth Sector in Wales

CWVYS logo

Talking Hands Youth Club

CWVYS Member
Swansea Centre for Deaf People
57-58 Neath Road
Hafod
Swansea 

Gwybodaeth i Aelodau

Clwb i bobl ifanc Fyddar ac i blant rhieni Byddar sy’n gallu clywed, 10 i 17 oed yw Talking Hands. Rydym yn cwrdd yn rheolaidd ar nos Wener rhwng 6.30 a 9.00.

Rydym yn rhedeg gweithgareddau clwb ieuenctid 'normal' megis celf a chrefft, gemau wii, snwcer a champfa.

Rydym yn trefnu tripiau, ymweliadau a sesiynau preswyl i bobl ifanc gael hwyl, gwneud ffrindiau, yn ogystal â hyfforddiant a gweithdai.

 

Rydym bellach wedi ehangu i ddarparu grwp cefnogi teuluoedd i rieni pant Byddar 0-6 oed a phlant rhieni Byddar sy’n gallu clywed. Mae’r grwp yn cwrdd yn rheolaidd ar bnawn Sadwrn rhwng 12 a 3. Mae’n creu cyfle i rieni rannu profiad, derbyn gwybodaeth a chroesawu siaradwyr gwadd, ac mae’n rhoi cyfle i’r plant chwarae a gwneud ffrindiau.