Sant Ioan Cymru
Ceir ystod eang o gyfleoedd gwych i bobl sydd am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w cymunedau ac sy’n rhoi ychydig amser i Sant Ioan Cymru.
Hyd yn oed os nad ydych chi am gymryd rhan mewn cymorth cyntaf, mae amryw roliau y gallwch chi eu gwneud, o fod yn arweinydd ieuenctid i swyddog cysylltiadau cyhoeddus.
Ceir gwahanol fathau a lefelau aelodaeth:
Moch Daear - Cynigir hwyl fawr i fechgyn a merched rhwng 5 a 10 oed mewn amgylchedd diogel dan oruchwyliaeth.
Cadetiaid Sant Ioan - Os ydych chi rhwng 10 a 18 oed gallech fanteisio ar lu o gyfleoedd gwych a chyffrous.
Ar hyn o bryd mae dros 2000 o bobl ifanc yng Nghymru’n cymryd rhan yn yr her. Ydych chi’n barod i’w hwynebu?
DOLENNI - Os ydych chi’n mynd i’r brifysgol ond am barhau o fod yn aelod gweithredol o Sant Ioan, neu os hoffech chi ddod yn aelod, Dolenni yw’r union beth
Mae gennym ni grwpiau DOLENNI ar hyn o bryd ym Mhrifysgolion Caerdydd, Bangor, Aberystwyth ac Abertawe a’n bwriad yw sefydlu llawer mwy ar draws Cymru.
Hoffech chi sefydlu grwp DOLENNI yn eich prifysgol?
Oedolion - I’r aelodau hynny sydd am ddarparu gwasanaeth Cymorth Cyntaf mewn digwyddiadau, rhoddir hyfforddiant llawn i’w paratoi ar gyfer pob amgylchiad.
Gall oedolion hefyd godi arian, arwain grwpiau ieuenctid, cynnig cymorth cyntaf neu weithredu fel ysgrifenyddion a thrysoryddion.