Mae
ProMo-Cymru
wedi cael enw da am ddarparu atebion datblygu arloesol. Ei amcan craidd yw datblygu pobl ifanc. I wneud hyn rydym yn defnyddio egwyddorion ac arferion Datblygu Cydweithredol a deinameg y diwydiannau creadigol i gysylltu mewn ffordd ystyrlon gyda phobl ifanc.
Mae gennym enw da hefyd fel cwmni sy’n darparu cynnyrch cyfryngau a diwylliannol i ystod eang o gleientiaid, gan gynnwys y BBC, Cynghorau Sir, y sector preifat a’r Cynulliad Cenedlaethol.
Os ydych yn artist gweledol, yn troelli disgiau, yn trefnu neu’n hyrwyddo digwyddiadau, neu’n rhywun sy’n teimlo bod ganddo neu ganddi syniad am brosiect neu fusnes, rydym ni yma i helpu. Boed hyfforddiant, cyngor, sgiliau busnes neu gymorth i wneud cais am gyllid - nid oes angen chwilio ymhellach W.