CWVYS The Independent Voice of the Voluntary Youth Sector in Wales

CWVYS logo

Penarth Youth Project

 
PENARTH YOUTH PROJECT
The Info Shop
1a Stanwell Road
Penarth
Vale of Glamorgan

Gwybodaeth i Aelodau

Prosiect Ieuenctid Penarth

Mae’r cwmni’n elusen annibynnol sy’n darparu amrywiaeth o wasanaethau i bobl ifanc 11-25 oed. Ers iddo agor 12 mlynedd yn ôl mae’r elusen wedi helpu dros 100,000 o bobl ifanc i wneud penderfyniadau ynglyn â’u bywydau ar sail gwybodaeth.

Yn Ionawr 2009 lansiodd Prosiect Ieuenctid Penarth raglen newydd o’r enw “Peered Up”, a gefnogir gan Gronfa’r Loteri Fawr. Mae’r niferoedd sy’n dilyn y prosiect wedi tyfu drwy gydol 2010 wrth inni greu grwp newydd a ddyfeisiwyd trwy’r rhaglen Peered Up ar gyfer pobl ifanc sydd â Syndrom Asperges. Bydd grwp newydd arall yn cychwyn yn 2011 ar gyfer pobl ifanc sydd â phroblemau personol.

Dyluniwyd y prosiect “Peered Up” i dargedu pobl ifanc 11 - 17 oedd sy’n ymddwyn mewn ffordd heriol neu broblemus, sy’n agored i niwed, neu sydd ag anawsterau hunaniaeth neu allu. Yn ogystal, bydd y prosiect yn cefnogi pobl ifanc sy’n wynebu unigedd neu amddifadrwydd oherwydd eu lleoliad a/neu’r adnoddau sydd ar gael yn eu cymunedau.

Yn ogystal â’r prosiect “Peered Up”, mae’r elusen yn parhau i gydweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau ieuenctid eraill yn y sectorau statudol a gwirfoddol, gan ddarparu gwasanaethau, gwybodaeth, achrediad, gweithgareddau a llais i bobl ifanc ym Mor Morgannwg