|
Gweledigaeth Mencap yw byd lle bydd pobl sydd ag anabledd yn cael eu trin yn gyfartal, yn cael gwrandawiad ac yn cael eu cynnwys. Rydym yn rhedeg prosiectau a gwasanaethau ar draws Cymru sy’n helpu pobl sydd ag anabledd dysgu a’u teuluoedd i gyflawni’r hyn y maent am ei gyflawni mewn bywyd. Mae Mencap Cymru hefyd yn rhedeg Llinell Gymorth Anabledd Dysgu Cymru, sef gwasanaeth gwybodaeth sydd ar gael i unrhyw un sydd ag ymholiad ynglyn ag anabledd dysgu.
Yn ôl i'r Rhestr Aelodau |