CWVYS The Independent Voice of the Voluntary Youth Sector in Wales

CWVYS logo

KPC Youth

CWVYS Member
Off Pyle Inn Way
Pyle
Bridgend

Gwybodaeth i Aelodau

Nid Ieuenctid KPC yw gweithio gyda phobl ifanc 8-25 oed, gan gynnig gweithgareddau a’u helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth, yr hyfforddiant a’r cyngor angenrheidiol i ateb eu hanghenion. Rhedir cyrsiau cynghori rheolaidd yn y ganolfan i fynd i’r afael ag anghenion pobl ifanc. Mae KPC yn gweithio mewn partneriaeth â'r uned cyferio disgyblion, gan gynnal Cwricwlwm CA4 amgen. Yn ogystal mae KPC yn cynnig cymwysterau achrededig mewn ystod o bynciau RhCA.

 

Mae KPC hefyd yn gweithio gyda phobl ifanc ddi-waith dros 16 oed yn ystod y dydd, gan gynnig help i lunio CV a chwilio am waith, yn ogystal â datblygu sgiliau cymhellol a chyfleoedd hyfforddi perthnasol. Yn KPC, mae pobl ifanc yn cael cyfle i gwrdd â ffrindiau, chwarae pwl a thennis bwrdd, defnyddio cyfrifiaduron, a chymryd rhan mewn celf a chrefft, yn ogystal ag amrediad o weithgareddau eraill.

 

Mae gan KPC ardal awyr agored wych hefyd ynghyd â pharc chwarae antur i aelodau iau, maes chwarae hyblyg a pharc sglefrio.