CWVYS The Independent Voice of the Voluntary Youth Sector in Wales

CWVYS logo

Fairbridge - South Wales

CWVYS Member
42 The Parade
Roath
Cardiff

Gwybodaeth i Aelodau

Mae Fairbridge yn gweithio gyda phobl ifanc 13-25 oed y mae mudiadau eraill yn cael trafferth i’w cyrraedd - gan roi hunanhyder a sgiliau iddynt i newid eu bywydau.
Mae’r bobl ifanc yn aml yn wynebu anawsterau lluosog, yn amrywio o fod wedi cael eu gwahardd o’r ysgol a digartrefedd i ymddygiad anghymdeithasol, trosedd a chamddefnyddio sylweddau. Maent yn aml heb unrhyw gefnogaeth gan eu teuluoedd ac maent yn byw ar ymylon cymdeithas.
Rydym yn annog pobl ifanc trwy gynnig cyfuniad unigryw o gymorth a chyfleoedd personol iddynt. Mae’r cyfleoedd hyn ar ffurf cyrsiau a phrosiectau heriol a strwythuredig a chynllun gweithredu unigol, penodol i bawb. A gwnawn hyn mewn amgylchedd diogel sy’n herio ymddygiad negyddol ac yn cydnabod cyflawniad.
Ceir canolfannau Fairbridge mewn 15 o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y DU. Bob blwyddyn mae dros 3,700 o bobl ifanc yn dewis cysylltu â ni. I lawer, dyma’u cam cyntaf yn ôl i addysg, hyfforddiant neu waith.