CWVYS The Independent Voice of the Voluntary Youth Sector in Wales

CWVYS logo

Discovery Student Volunteering

CWVYS Member
Fulton House
Swansea University
Swansea

Gwybodaeth i Aelodau

Sefydliad dan arweiniad myfyrwyr yw DISCOVERY sy’n ceisio mynd i’r afael ag unigedd cymdeithasol a diffyg cyfleoedd, gan geisio ennyn hyder a galluogi rhai sy’n wynebu camwahaniaethu yn eu bywydau. Nod ein prosiectau yw gwrthsefyll y camwahaniaethu hwn a chwalu ffiniau ac edrychwn ymlaen at gymuned lle mae pobl yn ael eu trin yn gyfartal ac nid dan anfantais.

 

Ar hyn o bryd mae gennym dros 250 o wirfoddolwyr sy’n cymryd rhan mewn 35 o brosiectau, yn helpu ystod o bobl sydd ag anghenion amrywiol. Mae’r rhain yn cynnwys anawsterau iechyd meddwl, pobl mewn oed, plant a phobl ifanc, a’r anabl. Rhedir yr holl brosiectau gan bobl ifanc, y mae llawer ohonynt yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym yn elusen gofrestredig ac ar waith ers dros 40 o flynyddoedd.