Ymestyn Hawliau a Phartneriaethau Pobl Ifanc (PPIau)
Mae mentrau polisi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi pwysleisio’r angen am ddull gweithredu cydlynol. Mae sefydliadau a budd-ddeiliaid yn defnyddio partneriaethau a rhwydweithiau i gydweithio mewn ffordd gydradd, i gynorthwyo i weithredu polisi trwy rannu arbenigedd a gwybodaeth.
Darparodd Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 gyfrifoldeb statudol i sefydlu Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc (PPI) yng Nghymru yn 2002 trwy bolisi arloesol y Cynulliad Ymestyn Hawliau: cynorthwyo pobl ifanc yng Nghymru (2000) a’r Cyfarwyddyd a Chanllawiau yn ei sgil (2002). Sefydlodd y dogfennau hyn yr egwyddorion sylfaenol ar gyfer datblygu gwasanaethau wedi’u canoli ar bobl ifanc fel y gall pobl ifanc 11 - 25 oed ennill 10 o hawliau sylfaenol. Penasant hefyd sut mae budd-ddeiliaid lleol yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn blaenoriaethu, cynllunio a gwerthuso’r gwasanaethau angenrheidiol yn eu hardaloedd.
Ceir 10 o hawliau sy’n hyrwyddo hawl pobl ifanc i’r canlynol:
• Addysg, hyfforddiant a phrofiad gwaith
• Ennill sgiliau
• Cymryd rhan mewn gwirfoddoli a dinasyddiaeth weithredol
• Gwasanaethau o ansawdd uchel
• Cyngor ar yrfaoedd a chymorth i fyfyrwyr
• Cymorth personol
• Cyngor ar iechyd, tai, a materion eraill
• Cyfleoedd hamdden a chymdeithasol
• Cymryd rhan mewn profiadau chwaraeon, artistig, cerddorol a rhyngwladol
• Ymgynghori a chymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau
Prif ffocws Ymestyn Hawliau oedd:
“sicrhau darpariaeth rhwydwaith cynhwysfawr o wasanaethau i bobl ifanc yn eu hardaloedd er mwyn eu hannog, eu galluogi a’u cynorthwyo, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, i wneud y canlynol:
· cyfranogi’n effeithiol mewn addysg neu hyfforddiant
· manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth
· cyfranogi’n effeithiol ac mewn modd cyfrifol ym mywyd eu cymunedau
fel y gellir arfogi pobl ifanc yn well i newid yn effeithiol i ddod yn oedolion annibynnol, i sicrhau eu hawliau llawn, i gyfrannu at ffyniant cymdeithasol ac economaidd Cymru, ac i wella ei bywyd diwylliannol.”
Mae’r canllawiau ar y PPI yn 2002 yn dynodi’r cynrychiolwyr o’r sector statudol a gwirfoddol. Ar bob PPI ceir 3 chynrychiolydd o’r sector gwirfoddol lleol gydag 1 lle’r un i CWVYS a’r CGS. Disgwylir i gynrychiolwyr y sector gwirfoddol, gan gynnwys CWVYS, gynrychioli’r sector yn ei gyfanrwydd, ac nid buddiannau eu sefydliadau eu hunain.
Ar yr un pryd sefydlwyd y Partneriaethau Plant 0-10 oed a Fframweithiau llywodraethol i gydlynu cynlluniau a datblygiadau ar gyfer rhai 0-25 oed dan ganllawiau ar wahân Plant a Phobl Ifanc: Fframwaith ar gyfer Partneriaeth (2000) ond heb sylfaen statudol. Argymhellwyd cynrychiolaeth gan y sector gwirfoddol ar y partneriaethau hyn hefyd yn yr un canllawiau.
Cyhoeddwyd y 7 nod craidd i blant a phobl ifanc ar yr un pryd. Y rhain sy'n nodi'r hyn y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud dros blant a phobl ifanc o dan bob un o'i amcanion craidd sy'n seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Nod 1: Cychwyn Bywyd yn Dda; sy'n ystyried Cychwyn Cadarn; Cymorth i Rieni gyda Magu Plant; Addysg yn y Blynyddoedd Cynnar a Datblygu Medrau Iaith a Llythrennedd;
Nod 2: Ystod Gynhwysfawr o Gyfleoedd Addysg, Hyfforddiant a Dysgu; sy'n cynnwys archwilio'r Wlad Sy'n Dysgu; Asesu a Phrofi; Gwrando ar Ddysgwyr; Bwlio; Gwahardd; Addysg gynhwysol; a Brecwast mewn ysgolion;
Nod 3: Yr Iechyd Gorau Posibl yn Rhydd oddi wrth Gamdriniaeth, Erlidigaeth a Chamfanteisio sy'n ystyried plant mewn angen, diogelu plant, ac iechyd plant a phobl ifanc;
Nod 4: Gweithgareddau Chwarae, Hamdden, Chwaraeon a Diwylliant;
Nod 5: Eu Trin gyda Pharch a Chydnabyddiaeth i'w Hil a'u Hunaniaeth Ddiwylliannol;
Nod 6: Cartref a Chymuned Ddiogel sy'n ystyried atal digartrefedd; troseddau ieuenctid; llwybrau diogel i'r ysgol, a chamddefnyddio cyffuriau;
Nod 7: Plant a Phobl Ifanc ddim dan anfantais oherwydd tlodi.
Er bod y PPI’n parhau i fodoli mewn llawer o ardaloedd, mae’r sefyllfa wedi newid oherwydd deddfwriaeth bellach. Mae ‘Partneriaethau Cryfach i Wella Canlyniadau: Canllawiau ar Gydweithio Lleol o dan Ddeddf Plant 2004’ yn rhoi manylion am y swyddogaethau statudol newydd i’r partneriaethau 0-25 oed, yn pwysleisio pwysigrwydd ffocysu ar ganlyniadau yn hytrach na’r darparwr, ac yn rhoi blaenoriaethu i blant a phobl ifanc sydd â’r angen mwyaf. Mae’r canllawiau’n amlinellu hefyd egwyddorion cydweithio, yn ymdrin â phenodi unigolion i arwain mewn Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau Iechyd ac yn edrych ar drefniadau comisiynu.
Ymgynghorwyd ar y canllawiau ar gyfer un cynllun yn ddiweddar ac fe’i cyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2007.
Yn y rhan fwyaf o ardaloedd Awdurdod Lleol mae strwythurau Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc yn datblygu yn seiliedig ar ganllawiau a gofynion y cynllun unol hwn. Mae rhai ardaloedd wedi cadw PPI benodol yn y strwythur, ond mae eraill wedi traflyncu swyddogaethau statudol yn PPI yn yr is-grwpiau a ffurfiwyd i ymgymryd â holl swyddogaethau’r Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc ehangach.
Pennir safle cynrychiolwyr CWVYS fel partneriaid strategol yn y PPI. Mewn rhai ardaloedd mae CWVYS ar y fframwaith strategol ac mewn eraill mae’n rhan o’r is-grwp sy’n cyflawni swyddogaethau’r PPI. Mae CWVYS yn monitro’r sefyllfa a bydd yn cyhoeddi bwletinau ar gyfer ei aelodau am strwythurau’r Partneriaethau a lle cynrychiolwyr CWVYS arnynt.
Cynrychiolwyr y Sector Gwirfoddol ar y PPI (neu ble bynnag y bo’i swyddogaethau)
Mae’r sector gwirfoddol yn cynnwys amrywiaeth o sefydliadau sy’n ymwneud â phob math o waith gyda phlant a phobl ifanc. Her y partneriaethau yw ennyn diddordeb y sector gwirfoddol, a sicrhau bod y cynrychiolwyr yn adlewyrchu safbwynt a chyfraniad yr holl fudd-ddeiliaid gwirfoddol lleol, gan gynnwys sefydliadau chwaraeon, celfyddydau ac amgylcheddol. Mae cynnwys y sector yn y partneriaethau’n gofyn cymorth yn seiliedig ar sut mae’r sector yn cael ei drefnu.
Pan sefydlwyd y PPI a’r Partneriaethau Plant nod oedd gan y rhwydweithiau ambarél ar y pryd mo’r adnoddau na’r strwythurau ymgynghori penodol i gyflawni holl ofynion cynnwys y sector.
Archwiliwyd y materion o bwys yn y PPI mewn cyfres o seminarau yn nechrau 2003 a gynhaliwyd ar y cyd gyda CWVYS, Plant yng Nghymru, CGGC, Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r sector gwirfoddol lleol.
Rhai o’r heriau oedd: eglurder ar roliau a chyfrifoldebau cynrychiolwyr; y broses ar gyfer ethol/dethol; y strwythurau gofynnol i gynnwys y sector ehangach; gallu sefydliadau’r sector i flaenoriaethu cyswllt strategol ehangach; gwybodaeth a gweledigaeth gyffredin o Ymestyn Hawliau; cynnwys gwirfoddolwyr; datblygu sgiliau partneriaeth; amseru cyfarfodydd a lleoliadau hygyrch; yr angen am archwiliad llawn.
Darparwyd grant arbennig o £20K i’r PPI yn 2003-4, am flwyddyn yn unig, i hwyluso cyswllt â’r sector. Penododd y CGS staff mewn rhai ardaloedd i sefydlu rhwydweithiau lleol, i greu cronfeydd data o ddarparwyr, i ledaenu gwybodaeth ac i gynnal hyfforddiant.
Roedd prosesau ethol/dethol yn parhau i gael eu sefydlu hefyd gyda chyfarfodydd rhagarweiniol a fforymau i’r sector hysbysu a chael ei hysbysu gan y PPI. Buddsoddodd rhai PPI mewn ymchwil neu weithgareddau eraill i ennyn diddordeb y sector.
Gwnaed cynnydd ers hynny ac mewn rhai ardaloedd darparwyd cyllid trwy’r partneriaethau i barhau â’r gwaith i’r PPI a’r Partneriaethau Plant. Fodd bynnag, erys her cynrychiolaeth a chyswllt effeithiol y sector ehangach ac mae cryn wahaniaeth o ran datblygiadau ledled Cymru.
Cynhaliwyd dau seminar ar y cyd rhwng staff yn y CGSau sy’n gyfrifol am gysylltu’r sector, CWVYS, CGGC a Phlant yng Nghymru ym mis Mehefin a mis Medi 2005, a chynhaliwyd archwiliad o CGSau ym mis Mehefin/Gorffennaf i nodi’r cymorth lleol sydd ar gael, rhannu arfer da, nodi meysydd i’w datblygu a gwneud argymhellion ar gyfer gweithredu yn y dyfodol.
Mae adroddiad o’r archwiliad a’r ymchwil ar gael gan CWVYS.
Cydnabu Estyn y materion ar sail tystiolaeth y pum arolwg o wasanaethau cefnogi ieuenctid ac mae wedi argymell y gallai’r PPI wella eu perthynas â’r sector gwirfoddol trwy ddulliau mwy anffurfiol megis cytundeb lleol â’r sector. Yn ogystal, mae Estyn wedi gwneud sylwadau ar ymwneud â’r sector gwirfoddol yn ei adroddiad ar ‘Effaith y Grant i’r Sector Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol’.
Mae gan y staff o’r CGS sy’n cefnogi cyswllt â’r sector rwydwaith ledled Cymru, a hwylusir gan y cyrff ambarél cenedlaethol ac a gadeirir gan CWVYS. Mae’r rhwydweithio hwn wedi eu helpu i rannu arfer ac wedi creu cyfle i drafod ffyrdd cadarnhaol o fynd ymlaen. Enw’r rhwydwaith yw CYPPiC (Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru) a chyhoeddwyd ei gylch gorchwyl yn 2007.
Fodd bynnag, mae rhagor i’w wneud eto er mwyn galluogi’r sector i wneud cyfraniad effeithiol. Ceir gwahaniaethau sylweddol o ran datblygiadau ar draws Cymru gan ddibynnu ar y gefnogaeth a’r adnoddau sydd ar gael ac mae CWVYS ac aelodau CYPPiC yn parhau i fonitro’r sefyllfa.
Cynrychiolwyr CWVYS ar y PPI
Mae gan CWVYS le ar bob un o’r 22 PPI, fel un o bum cynrychiolydd y sector gwirfoddol.
Er bod pob PPI wedi datblygu’n wahanol oherwydd amgylchiadau lleol, mae prif dasgau pob cynrychiolydd CWVYS yn gyffredin ledled Cymru. Y dasg yw mynychu cyfarfodydd y PPI a chydweithio gyda phartneriaid lleol mewn gwasanaethau ieuenctid ac yn y sector gwirfoddol i gefnogi gweithredu darparu Ymestyn Hawliau.
Mae Côd Ymarfer gan CWVYS ar gyfer ein cynrychiolwyr
Nid yw cynrychiolwyr CWVYS yn cynrychioli’r sefydliad unigol y maent yn ymwneud ag e fond maent yn gyfrifol am gynrychioli safbwynt CWVYS, wedi’i ategu gan eu profiad eu hunain a phrofiad sefydliadau gwirfoddol lleol eraill yn yr ardal.
Ar hyn o bryd mae CWVYS yn cynrychioli 54 o sefydliadau (yn Ionawr 2010) sy’n ymwneud â thros 200,000 o bobl ifanc ledled Cymru ac mae ganddo le strategol ar gyrff Cymru gyfan ym maes ieuenctid a’r sector gwirfoddol. Mae cynrychiolwyr CWVYS, felly, mewn safle delfrydol i ddarparu gorolwg strategol o faterion sydd o bwys i’r PPI ar lefel genedlaethol trwy adborth a thrafodaethau ar y cyd trwy CWVYS i ategu materion strategol ehangach. Mae’r gorolwg hwn yn ddefnyddiol hefyd i ategu’r trafodaethau ar bob PPI i gynorthwyo’r prosesau cynllunio a gweithredu.
Adolygu Ymestyn Hawliau
Mae cyfarwyddwyd Ymestyn Hawliau’n cael ei adolygu a bydd ymgynghori arno yn 2009.
Estyn
Estyn yw swyddfa Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru ac mae ganddi gyfrifoldeb i arolygu gwasanaethau cefnogi ieuenctid gan ddefnyddio’r Fframwaith Arolygu Cyffredin. Gellir gweld y ddogfen hon a’r adroddiadau arolygu ar wefan Estyn.
Llwybrau Dysgu 14-19
Mae Y Wlad Sy’n Dysgu: Llwybrau Dysgu 14-19 yn amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru i alluogi pobl ifanc i ‘gael y cyfle i ennill y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i gymryd eu lle yn y farchnad fyd-eang yn y dyfodol a byw bywydau hapus a llwyddiannus'.
Mae’r canllawiau ar y fenter hon yn dangos sut mae cynllun gweithredu Llwybrau Dysgu 14 -19 i gael ei roi ar waith. Sefydlwyd Rhwydweithiau 14 -19 ym mhob ardal Awdurdod Lleol ac maent yn gyfrifol am gynllunio a chydlynu gweithredu lleol. Mae’r Rhwydweithiau 14 -19 yn cysylltu â’r PPI (neu ble bynnag y bo’i swyddogaethau) er mwyn sicrhau ymateb cydlynol.
Bydd pobl ifanc yn dilyn llwybr dysgu unigol a hyblyg, yn derbyn cymorth a chyfarwyddyd a chyfle i gael profiad gwaith a chyfranogi yn y gymuned er mwyn ennill sgiliau sylfaenol ac allweddol cydnabyddedig trwy sefyllfaoedd dysgu ffurfiol ac anffurfiol.
Nodir profiadau o gyfranogi mewn cymunedau lleol a rôl a swyddogaeth yr Hyfforddwr/wraig Dysgu.
Gall y Sector Ieuenctid Gwirfoddol chwarae rhan o bwys yn y Llwybrau Dysgu 14-19. Mae llawer o’r gwaith gyda phobl ifanc eisoes yn cyfrannu at y Llwybrau Dysgu; ond mae angen ei ffurfioli. Bydd pobl ifanc yn cael cydnabyddiaeth am yr hyn y maent yn ei wneud fel aelodau o sefydliadau gwirfoddol.
Mae CWVYS wedi cyhoeddi taflen i’r sector gwirfoddol ar Lwybrau Dysgu 14-19 ar y cyd â Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Cynhaliodd CWVYS, ar y cyd â Llywodraeth Cynulliad Cymru, gynhadledd ar gyfer y sector wirfoddol ar Lwybrau Dysgu 14-19 ym mis Mai 2006. Mae adroddiad y gynhadledd ar gael a chynhaliwyd ail gynhadledd ym mis Gorffennaf 2007.
Adroddiad Cynhaledd 2006 isod.
Gweler isod am fwy o gysylltiadau defnyddiol.
Ymhlygiadau eraill o ran polisi i’r sector ieuenctid gwirfoddol
Mae’r sector ieuenctid gwirfoddol yn wynebu newid ar hyn o bryd dan bwysau allanol y cyd-destun polisi yng Nghymru. Mae’r canllawiau ar weithredu Ymestyn Hawliau’n gofyn i sefydliadau ymwneud yn strategol fel budd-ddeiliaid yn y Partneriaethau Pobl Ifanc (PPI). Mae Creu'r Cysylltiadau: Gwell Gwasanaethau i Gymru wedi gweld trosglwyddo gwaith a staff Cyngor Ieuenctid Cymru i Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae Beecham o Lywodraeth Leol, Creu'r Cysylltiadau - Cyflawni Ar Draws Ffiniau wedi gwneud argymhellion ar sut y gallai gwasanaethau ganolbwyntio fwy ar ddinasyddion.
Mae polisïau eraill wedi cael dylanwad ar y sector, megis Llwybrau Dysgu 14-19, ysgolion cymunedol eu ffocws, y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol i Blant a Phobl Ifanc, y Cyfarwyddiadau Cyfranogiad Lleol a gweithredu Deddf Plant 2004 ar bartneriaethau’r Fframwaith. Mae ymhlygiadau i’r sector hefyd yn y Strategaeth Gwasanaeth Ieuenctid Cenedlaethol.
Ergyd sylfaenol y polisïau hyn yw newid y diwylliant o ffocysu ar sefydliadau a strwythurau at ganlyniadau i blant a phobl ifanc a chysylltu pobl ifanc yn uniongyrchol â phenderfyniadau am wasanaethau a strwythurau sy’n effeithio ar eu bywydau.