Cynllun y Sector Gwirfoddol yng Nghymru
CWVYS fel y Rhwydwaith Ieuenctid yn y Cynllun Sector Gwirfoddol
|
Rhwydwaith Ieuenctid Sector Gwirfoddol
Sefydlwyd y Cynllun Sector Gwirfoddol yng Nghymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn ymgynghoriad â’r sector i ‘hyrwyddo buddiannau mudiadau gwirfoddol perthnasol’ ac mae’n nodi:
- ‘sut y mae Llywodraeth y Cynulliad yn cynnig cynorthwyo mudiadau gwirfoddol perthnasol (drwy grantiau, benthyciadau, gwarantau neu foddau eraill),
- sut y mae Llywodraeth y Cynulliad yn cynnig monitro’r defnydd a wneir o unrhyw gymorth a ddarperir ganddi i fudiadau gwirfoddol perthnasol, a
- sut y mae Llywodraeth y Cynulliad yn cynnig ymgynghori â mudiadau perthnasol am arfer ei swyddogaethau felly fel sy’n berthnasol i faterion sy’n effeithio ar y cyfryw fudiadau neu sy’n peri gofid iddynt.’
|
Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (CPST) a chyfarfodydd gweinidogaethol ddwywaith y flwyddyn yw’r ddau brif strwythur yn y cynllun y mae’r sector gwirfoddol yn eu defnyddio i gyfathrebu â’r Cynulliad.
Mae CGGC yn cydlynu 24 rhwydwaith sector gwirfoddol. CWVYS yw’r rhwydwaith Ieuenctid ac mae Prif Weithredwr CWVYS yn mynychu cyfarfodydd CPSG a chyfarfodydd gweinidogaethol sy’n codi materion sy’n berthnasol i’r sector. Cyflwynir adroddiadau am y cyfarfodydd hyn i Adran Weithredol CWVYS ac fe’u lledaenir drwy CWVYS a rhwydweithiau ehangach mudiadau ieuenctid gwirfoddol.
Mae CGGC yn cyhoeddi gwybodaeth am y cynllun ac mae ganddynt fanylion ar sut i gysylltu â'r holl rwydweithiau.
Gwnaed adolygiad annibynnol o’r Cynllun Sector Gwirfoddol yn dilyn Etholiadau’r Cynulliad yn 2003 a chafodd sawl peth ei newid gyda’r bwriad o wneud y Cynllun yn fwy effeithiol. Fydd y Ddeddf Llywodraeth Cymru yn effeithio ar weithrediad y cynllun ac ar ran Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol.
Y Trydydd Dimensiwn
Cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Y Trydydd Dimensiwn: Cynllun Gweithredu Strategol i’r Sector Gwirfoddol yn Ionawr 2008,, sef y strategaeth a’r cynllun gweithredu i’r trydydd sector yng Nghymru
Gwybodaeth am y Trydydd Sector
Gellir gweld dogfennau eraill Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y sector gwirfoddol gan gynnwys cofnodion ac adroddiadau blynyddol y grantiau TSPC ar wefan y Cynulliad.
Mae canlyniadau nodedig i’r rhwydwaith ieuenctid yn cynnwys sefydlu Uned Cofnodion Troseddol CGGC, dylanwadu sut y mae Canllawiau Cymorth yn argymell gweithio gyda’r sector gwirfoddol a chanlyniadau Comisiwn Russell.
Fu CWVYS yn ymgymryd â
thri Seminar ymgynghori yng Ngwanwyn 2006 i sefydliadau aelod a mudiadau sector gwirfoddol eraill glywed am waith CWVYS fel y rhwydwaith ieuenctid, i drafod materion i’w hystyried yng nghyfarfodydd CPSG a chyfarfodydd Gweinidogaethol ac i bennu’r ffordd orau i rannu materion gyda’r maes. Mae adroddiad ar y seminarau yn cael ei baratoi