CWVYS The Independent Voice of the Voluntary Youth Sector in Wales

CWVYS logo

Polisi ac Ymchwil

Polisïau a strategaethau sy’n effeithio ar Bobl Ifanc yng Nghymru


Mae CWVYS yn cysylltu ? sefydliadau a strwythurau eraill yng Nghymru i gefnogi datblygiadau polisi ac i ddylanwadu ar ddatblygiadau strategol.
 
Gwaith Ieuenctid
Mae CWVYS yn cynrychioli’r sector ieuenctid gwirfoddol drwy ei aelodaeth. Y prif feysydd polisi yw Ymestyn Hawliau; cefnogi pobl ifanc yng Nghymru, Llwybrau Dysgu 14-19, y Strategaeth Gwasanaeth Ieuenctid Cenedlaethol ar gyfer Cymru, Ysgolion Bro a datblygiadau Deddf Plant 2004.
 
 
Sector Gwirfoddol
Mae CWVYS yn cynrychioli?r Rhwydwaith Ieuenctid yn y Cynllun Sector Gwirfoddol ac yn gweithio gyda rhwydweithiau eraill fel y Fforwm Gwirfoddoli, Plant yng Nghymru (y Rhwydwaith Plant a Phobl Ifanc), a Hyfforddiant ac Addysg.
 
 
Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ESDGC)
 
Gwaith Ieuenctid Byd-eang
Mae CWVYS yn gweithio?n agos gyda Chyfanfyd sy?n gweithio i hyrwyddo addysg ar gyfer datblygiad cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang yng Nghymru. Gwnaeth CWVYS a Chyfanfyd brosiect ar y cyd yn 2004/5 dan y teitl POBL IFANC YNG NGHYMRU: DINASYDDION BYD-EANG GWEITHGAR

Mae CWVYS yn cefnogi'r prosiect gwaith ieuenctid byd-eang a reolir gan Cyfanfyd.
 
 
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dogfen ymgynghorol ar Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ESDGC). Cyhoeddwyd cynllun gweithredu yn 2006 a chafodd ei ddiweddaru yn 2008.
 
 
Cyd-ddealltwriaeth Gyffredin ar gyfer y Sector Gwaith Ieuenctid
Lansiodd Llywodraeth Cymru Y Gyd-ddealltwriaeth Gyffredin ar gyfer y Sector Gwaith Ieuenctid yn ystod yr Wythnos Gwaith Ieuenctid ym mis Tachwedd 2008. Hwn oedd y gwaith a wnaeth Cyfanfyd a CWVYS trwy dendr gan LCC. Mae pecyn ESDGC yn cael ei ddatblygu hefyd, i’w gyhoeddi yn 2009. Cyd-ddealltwriaeth Gyffredin ar gyfer y Sector Gwaith Ieuenctid

Gwirfoddoli
Adroddiad Comisiwn Russell: mae CWVYS yn gweithio gyda rhanddeiliaid eraill ar gyfer gwirfoddoli ieuenctid i ddatblygu?r argymhellion yng Nghymru

Comisiwn Russell
 
Comisiwn Russell - Ymrwymiad a Gweithrediad Ieuenctid yng Nghymru
Mae gwaith yn cael ei wneud i ddatblygu fframwaith partneriaeth bydd yn cymryd blaenoriaethau Russell ymlaen ac a fydd yn annibynnol o LlCC. Mae gwaith arall yn cynnwys tendro ar gyfer porth a chynllun achrediad gwirfoddoli. Paratowyd papur ar achrediad gan CWVYS, Youth Cymr a CGGC. Mae panel ieuenctid wedi cael ei sefydlu ac ailenwyd y fenter yn GwirVol.
 
Gwirfoddolwyr y Mileniwm: mae Gwirfoddolwyr y Mileniwm yn fenter i annog a chefnogi gwirfoddoli ymhlith pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed. CWVYS yw un o'r sefydliadau partner i Wirfoddolwyr y Mileniwm gyda Chyngoe Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) sy'n gweinyddu'r cynllun.
 
 
 
CGGC
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yw corff ambarel yn sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae'n ymgymryd ? gwaith ymchwil am y sector gwirfoddol. Gellir cael gwybodaeth yn uniongyrchol gan Linell gymorth CGGC 0800 2888 329 neu e-bost: help@wcva.org.uk
 
 
Ymgynghoriadau
Mae CWVYS yn ymateb i ymgynghoriadau am bolis?au a strategaethau yng Nghymru a'r tu hwnt. Mae ymgynghoriadau diweddar yn cynnwys: Gweler isod am ddogfennau cysylltiedig.
Ysgrif lawrlwytho: Gweithredu cynllun cyfrifon cwsg yng Nghymru Size: [84 KB] File Type: [.doc]
Ysgrif lawrlwytho: Strategaeth Gweithlu Plant a Phobl Ifanc Cymru Size: [84 KB] File Type: [.doc]
Ysgrif lawrlwytho: AWDURDOD DIOGELU ANNIBYNNOL Size: [74 KB] File Type: [.doc]
Ysgrif lawrlwytho: Cynigion ar Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2008 Size: [88 KB] File Type: [.doc]
Ysgrif lawrlwytho: Mecanwaith dosbarthu asedau heb eu hawlio: dogfen ymgynghorol Size: [26 KB] File Type: [.doc]
Ysgrif lawrlwytho: YMATEB I’R DDOGFEN YMGYNGHOROL Cronfa Ddatblygu i Grwpiau dan Anfantais Size: [70 KB] File Type: [.doc]
Ysgrif lawrlwytho: Galluogi Dinasyddion Gweithgar i Gyfrannu i Gymru Size: [70 KB] File Type: [.doc]
Ysgrif lawrlwytho: CYFARWYDDYD Y CYNLLUNIAD CENEDLAETHOL AR STRATEGAETHAU CYFRANOGI LLEOL Size: [68 KB] File Type: [.doc]
Ysgrif lawrlwytho: YWlad sy'n Dysgu 2 Size: [84 KB] File Type: [.doc]
Ysgrif lawrlwytho: Plant a Phobl Ifanc Size: [71 KB] File Type: [.doc]
Ysgrif lawrlwytho: Dogfen Ymgynghorol ar Addysg dros Ddatblygiad Cynaliadwy Size: [28 KB] File Type: [.doc]