|
STRATEGAETH GWASANAETHAU IEUENCTID
Pobl ifanc, gwaith ieuenctid, Gwasanaeth Ieuenctid:
Cyhoeddwyd hwn ym mis Mawrth 2007 yn dilyn ymgynghoriad eang gyda'r maes gwaith ieuenctid.
Mae'r Strategaeth Gwasanaethau Ieuenctid yn darparu 'gweledigaeth ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru a'i effaith wrth gyfrannu at agenda polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru.'
Yn dilyn ad-drefniad o DCELLS (Adran Plant, Addysg, Dygu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru), y Gangen Strategaeth Gwasanaethau Ieuenctid sydd â chyfrifoldeb am weithredu'r Strategaeth.
Isod ceir y brif camau gweithredu o'r Strategaeth:
Rhanbartholiaeth
Un o flaenoriaethau'r strategaeth yw rhanbartholiaeth yn seiliedig ar yr ardaloedd ADEW (Association of Directors of Education in Wales) sydd yn ‘cyplysu’r prosesau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol o lunio polisïau, eu cyflawni, eu monitro a’u gweithredu yn unol ag ymateb y Cynulliad i Adroddiad Beecham’. Datblygwyd y strwythur gan Brif Swyddogion Ieuenctid Cymru.
Cwmpasu'r Gwasanaethau Ieuenctid
Cynhaliwyd arolwg o'r sector ieuenctid a gynhelir a'r sector ieuenctid gwirfoddol yn ystod yr Haf / Hydref 2007 gan gynnwys mudiadau, gweithlu ac adeiladau. Bwriad yr ymarfer cwmpasu yw hwyluso dosbarthu adnoddau.
Safonau
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gofyn am ddatblygu safonau sydd yn mynegi egwyddorion ar gyfer ymgysylltiad y sector gwirfoddol ac i ‘dangos yn eglur ei ymrwymiad i Gwasanaeth Ieuenctid ac Ymestyn Hawliau'.
Datblygiad Gweithlu
Elfen fawr o'r Strategaeth yw'r cynllun datblygu gweithlu, sydd wedi bod yn destun cryn dipyn o ymgynghori gyda'r sector yn ystod 2007-8. Mae'r gwaith yma bellach yng ngofal yr Is-adran Gwella Dysgu a Datblygiad Proffesiynol, sy’n rhan o DCELLS.
Ariannu Cyfalaf a Refeniw 2008-9
Mae cyllid refeniw a chyfalaf atodol ar gael a gofynnir i'r awdurdodau lleol gwneud ceisiadau i'r LlCC, yn dilyn ymgynghoriadau ar flaenoriaethau lleol gyda rhanddeiliaid lleol, ac os derbynnir y ceisiadau bydd yr arian ar gael o Ebrill 2008. Blaenoriaeth yr arian refeniw yw hyfforddiant a datblygiad gweithlu wedi'i gysylltu â chamau gweithredu’r SGI i gynyddu cymhwysterau (neu cyffelyb) y gweithlu gan gynnwys gwirfoddolwyr.
Cyllid Cyfalaf a Refeniw 2009-10
Mae cyllid ar gael ar gyfer 2009-10. Cysylltwch â’r Prif Swyddog Ieuenctid i wybod rhagor.
Marchnata
Nod marchnata'r Gwasanaeth Ieuenctid yw cynyddu'r nifer o bobl ifanc sydd yn mynychu darpariaeth gwasanaeth ieuenctid a recriwtio i'r gweithlu. Mae grwp strategaeth marchnata eisoes wedi cyfarfod a chytunwyd blaenoriaethau fel wythnos gwaith ieuenctid, ymgyrch hysbysebu, canllaw ymarfer da a phecyn at ddefnydd gweithwyr ieuenctid er mwyn hybu gwaith ieuenctid fel gyrfa i bobl ifanc.
Cyfranogiad Pobl Ifanc mewn Penderfyniadau Cyhoeddus
Disgwylir i fudiadau ‘chwarae rôl arweiniol i gynnwys pobl ifanc yn y broses o wneud penderfyniadau, cynllunio ac adolygu gweithredoedd o safbwynt pob mater sy’n effeithio arnynt’.
Datblygir nod barcud yn seiliedig ar y safonau Cyfranogiad gan yr Uned Cyfranogiad a'r Consortiwm Cyfranogiad.
Canlyniadau i Bobl Ifanc a Mesur Effaith
Ceir pwyslais yn y strategaeth ar ganlyniadau a mesur effaith gan gynnwys y prosiect 'Dangos Llwyddiant' (Demonstrating Success).
Am ragor o wybodaeth am ddatblygiadau'r Strategaeth Gwasanaethau Ieuenctid, cysylltwch â CWVYS neu defnyddiwch adran aelodau CWVYS (aelodau CWVYS yn unig)
Ceir rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Ieuenctid a Gwaith Ieuenctid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. http://www.wales.gov.uk
Diolch Sam – Gwaith Ieuenctid Cymru
Tyfodd y fenter hon o strategaeth farchnata’r Gwasanaeth Ieuenctid a’r canlyniad yw:
• Yr Wythnos Gwaith Ieuenctid a chylchgronau cyhoeddusrwydd rhanbarthol
http://www.thankssam.org.uk/cymraeg.html
Datblydiad y Strategaeth Gwasanaethau Ieuenctid
Gellir weld ddogfen Ymgynghori'r Strategaeth Gwasanaeth Ieuenctid yma:
Am ymateb CWVYS i'r dogfen hwn a gyhoeddwyd ar Ionawr 24ain 2007, gweler y dogfen cysylltiedig isod.
(yn Saesneg - cyfieithiad i ddilyn)
|