CWVYS The Independent Voice of the Voluntary Youth Sector in Wales

CWVYS logo

Cyfranogiad Pobl Ifanc wrth wneud penderfyniadau cyhoeddus

CWVYS a’r sefydliadau aelod yn cynnwys pobl ifanc wrth wneud penderfyniadau am faterion sy’n effeithio arnynt


Cyfranogiad

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wrthi’n cefnogi cynnwys plant a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau am faterion sy’n effeithio ar eu bywydau. Mae hyn yn seiliedig ar egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Confensiwn Y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn

Draig Ffynci
Draig Ffynci yw Cynulliad Pobl Ifanc Cymru. ‘Prif dasgau Draig Ffynci yw sicrhau y caiff barnau plant a phobl ifanc eu clywed, yn enwedig gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, a chefnogi cyfranogiad wrth wneud penderfyniadau ar lefel genedlaethol.’

Draig Ffynci

Consortiwm Cyfranogi ac Uned Cyfranogi
Sefydlwyd yr Uned Cyfranogi o fewn elusen Achub Y Plant gydag arian LlCC er mwyn cefnogi a hybu arfer da mewn cyfranogiad cyhoeddus pobl ifanc i wneud penderfyniadau. Cynrychiolir CWVYS yn y consortiwm sydd yn sail i gwaith yr Uned.

Achub y Plant

 
 
Ydyn ni'n cwrdd a'ch safonau? Cael Llais - Cael Dewis!
Datblygwyd y llyfryn yma gan Gonsortiwm Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc Cymru i hysbysu pobl ifanc o’u hawliau a beth allent ei ddisgwyl gan yr oedolion sydd yn gweithio gyda hwy.
Gweler y dogfennau i’w lawr-lwytho isod am gopi o’r llyfryn.
 
 
Mae Consortiwm Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc Cymru, yr Uned Cyfranogiad a Phrosiect Cyfranogiad Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio ar y cyd i hybu cyfranogiad plant a phobl ifanc (0-25 oed) i wneud penderfyniadau cyhoeddus yng Nghymru. Rydym wedi datblygu Safonau Cenedlaethol ar gyfranogiad sydd yn berthnasol i bob mudiad sy’n gweithio gyda neu yn effeithio ar blant a phobl ifanc. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau fod plant a phobl ifanc ledled Cymru yn cael profiad positif ac ystyrlon o gyfranogiad.
 
Rhwydwaith Gweithwyr Cyfranogiad Cymru (PWNW)
Y mae’r Rhwydwaith yn wasanaeth am ddim a gynigir i bob gweithiwr a sefydliad sydd â diddordeb mewn neu sy’n hyrwyddo yn weithredol gyfranogiad plant a phobl ifanc yn eu gwaith.
 
 
Cyfranogi a’r Sector Gwirfoddol
Mae cyfranogiad pobl ifanc i’w weld ym mhobman yn y sector ieuenctid gwirfoddol ac mae gan lawer o sefydliadau eu cynghorau ieuenctid eu hunain ac maent yn cefnogi gwneud penderfyniadau yn eu sefydliadau ym mhob maes gwaith.
 
Mae CWVYS yn gwneud gwaith ymchwil ar destun cyfranogi gyda’i aelodau sydd wedi ei ariannu gan yr uned yma. Bwriad y gwaith yw ceisio nodi dehongliad ehangach cyfranogi yn y sector gwirfoddol a’r effaith ar gyfraniad pobl ifanc i wneud penderfyniadau cyhoeddus. Mae’r gwaith yn defnyddio cyfweliadau a digwyddiadau ar gyfer pobl ifanc, gyda digwyddiad gan CWVYS yn hwyrach yn y flwyddyn i drafod y canlyniadau. Bydd hefyd yn sail i gwaith a blaenoriaethau yr Uned Cyfranogi a CWVYS yn y dyfodol.
 
Mae Datganiad Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid Cymru yn sylfaen i’r gwaith ieuenctid ac un o’r prif egwyddorion ymarferol yw cyfranogiad. Fodd bynnag, gall fod dryswch am ystyr cyfranogiad, sydd mewn gwaith ieuenctid yn cynnwys ystod o fethodolegau a chanlyniadau i bobl ifanc yn ogystal â chyfranogiad wrth wneud penderfyniadau cyhoeddus..
Cliciwch yma i weld y dudalen cyhoeddiadau
Gellir gweld yr adroddiad isod
 
Cyfranogiad Lleol
Cynhyrchwyd Canllawiau Cyfranogiad ar gyfer yr holl Bartneriaethau Plant a Phobl Ifanc gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae’n rhaid i bob ardal gynhyrchu Strategaeth Cyfranogi i ddangos sut y maent am ymgysylltu pobl ifanc â gwaith y Partneriaethau ac mewn meysydd eraill yn eu bywydau.

Gweler y dogfennau i lwytho isod am y Canllawiau Cyfranogiad

Dylai bob Ardal Awdurdod Leol fod â Fforwm Ieuenctid sydd yn cynnwys pobl ifanc o’r sector a gynhelir a’r sector gwirfoddol. Mae’n rhaid i bob ysgol cael Cyngor Ysgol. Mae cynrychiolwyr o’r rhain yn ffurfio Prif Gyngor y Ddraig Ffynci.

Gweler isod am Ddogfennau cysylltiedig o ddiddordeb

Datganiad Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid Cymru

Ysgrif lawrlwytho: Cyfranogi gan bobl ifanc yn y Sector Ieuenctid Gwirfoddol Size: [397 KB] File Type: [.pdf]
Ysgrif lawrlwytho: CYFARWYDDYD Y CYNLLUNIAD CENEDLAETHOL AR STRATEGAETHAU CYFRANOGI LLEOL Size: [75 KB] File Type: [.doc]
Ysgrif lawrlwytho: Ydyn ni'n cwrdd a'ch safonau? Cael Llais - Cael Dewis! Size: [128 KB] File Type: [.pdf]
Ysgrif lawrlwytho: Strategaethau Cyfranogi Lleol Size: [1605 KB] File Type: [.pdf]