CWVYS The Independent Voice of the Voluntary Youth Sector in Wales

CWVYS logo

Gwybodaeth am nawdd

Gwybodaeth am nawdd sydd ar gael yn y Sector Ieuenctid Gwirfoddol

Nawdd  

Cynllun grant Mudiadau Gwirfoddol Cenedlaethol (NVYO)
Dyma grantiau wneir i fudiadau ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol Cymru ar gyfer costau rheoli craidd, a rhai costau prosiect.  Mae’r cynllun grantiau newydd yn rhedeg am 3 blynedd o Ebrill 2009.
 
Gweinyddir y cynllun gan gangen Strategaeth Gwaith Ieuenctid DCELLS yn y Llywodraeth.  Gwnaethwyd arolwg o'r cynllun gan Estyn yn 2006. Mae adroddiad yr arolwg ar gael – gweler isod am y ddolen.
 
Cynlluniau Grant Cynulliad Cymru i’r Sector Gwirfoddol
Gellir cael gwybodaeth am yr holl gynlluniau grant ar wefan y Cynulliad

Sector Gwirfoddol 

Cynlluniau grant CGGC
Mae CGGC yn gweinyddu cynlluniau grant ac mae gwybodaeth ar ei wefan neu cysylltwch â llinell gymorth CGGC 0870 607 1666 neu anfonwch e-bost at: help@wcva.org.uk
 
 
Ymddiriedolaethau elusennol a grantiau eraill sydd ar gael

Cysylltwch â CWVYS, CGGC neu’r Cynghorau Gwirfoddol Sirol lleol am fwy o wybodaeth

Grantiau lleol gan Gynghorau Gwirfoddol Sirol (CGSau)
Mae gan lawer o CGSau gynlluniau grant bach. Gellir cael gwybodaeth am y cynlluniau hyn drwy gysylltu â’r CGS perthnasol. Mae gan CGGC restr o’r holl CGSau yng Nghymru. Llinell gymorth CGGC 0870 607 1666 neu e-bost: help@wcva.org.uk
 
Cymorth 
Mae cronfa Cymorth gan yr holl Bartneriaethau Pobl Ifanc a Phartneriaethau Plant a’r Fframwaith rhychwantol i Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru. Dyma nawdd y Cynulliad i’r plant a’r bobl ifanc sydd yn y perygl mwyaf. Gellir gweld y canllawiau cenedlaethol ar gyfer Cymorth ar wefan y Cynulliad. Mae pob Partneriaeth Fframwaith yng Nghymru yn pennu blaenoriaethau lleol a gellir gweld y rhain yn y cynllun Cymorth lleol. Gellir cael gwybodaeth am Cymorth yn lleol o’r Fframwaith a Chydlynwyr Partneriaethau Pobl Ifanc. Mae gan CWVYS restr o gysylltiadau.  
 
 
Cod ymarfer ar gyfer ariannu'r Sector Gwirfoddol
Sefydlwyd hwn drwy'r Cynllun Sector Gwirfoddol ac mae'n sefydlu egwyddorion sut y mae'r Cynulliad yn gysylltiedig â'r sector mewn perthynas ag ariannu.
 
Datblygwyd cod ymarfer newydd ac fe’i cyhoeddir yn fuan.
 
Am ragor o wybodaeth am ariannu, gall aelodau CWVYS ddefnyddio'r adran Aelodau yn Unig o'r gwefan, fynd at hysbysfwrdd yr Aelodau a chlicio ar yr e-bwletin diweddaraf.