CWVYS - Amdanom Ni!
Pwy yw Cyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cymru ?
CWVYS yw'r corff cynrychioliadol annibynnol ar gyfer y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru.
Gweler y dogfennau i’w lawr-lwytho isod am gopi o lyfryn CWVYS
Amcan penodol CWVYS o’r cyfansoddiad
‘ Addysgu a helpu pobl ifanc i ddatblygu eu gallu corfforol, meddyliol, diwylliannol ac ysbrydol er mwyn iddynt aeddfedu’n llawn fel unigolion ac aelodau o’r gymdeithas drwy hwyluso cymorth cilyddol a chydweithrediad ymhlith mudiadau ieuenctid gwirfoddol, y Gwasanaeth Ieuenctid ac asiantaethau cysylltiedig eraill yng Nghymru.’
Gweler y dogfennau isod am Femorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu CWVYS (yn Saesneg)
Aelodaeth
Daw aelodau CWVYS o fudiadau ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol a lleol yng Nghymru. Mae aelodaeth yn agored i’r holl fudiadau gwirfoddol sy’n cytuno â nod y Cyngor ac sy’n rhannu ei gylch gorchwyl ar gyfer gwaith ieuenctid. Mae 62 o fudiadau’n aelodau ym mis
Chwefror 2012, 33 o fudiadau cenedlaethol a 28 asiantaeth gymunedol leol neu ranbarthol. Mae’r aelodau’n cydweithio gyda mwy na 250,000 o bobl ifanc 11 – 25 oed. I rai mae yna bwyslais ar ystod oedran 13 – 19, er bod amrywiaeth y sector yn golygu bod mudiadau’n ymdrin ag ystod oedran ehangach sy’n cynnwys plant, ac oedolion dros 25 oed.
Aelodau ym mis Ionawr 2013.
Strwythur a Llywodraethu
Mae Cyngor CWVYS yn cynnwys dau gynrychiolydd o bob sefydliad aelod a chadeirydd mygedol. Mae’r Pwyllgor Gweithredol, sef corff llywodraethu CWVYS, yn cynnwys deg cynrychiolydd o fudiadau cenedlaethol a deg mudiad gwirfoddol lleol yn ogystal â swyddogion sy’n cael eu hethol yn flynyddol.
Pwyllgor Gweithredol 2011-12
Rob Norris (Chair)
Efa Gruffudd Jones (Vice Chair)
Urdd Gobaith Cymru
Lynn Ayling (Hon. Treasurer)
Girlguiding Cymru
National Organisations:
Caroline Oram
Platform 51 Cymru
Cathie Robins-Talbot
British Deaf Association
Clive Bracewell
Scoutswales
Dyfrig Morgan
Urdd Gobaith Cymru
Joff Carroll
CYP Wales
Marco Gil-Cervantes
ProMo Cymru
Nia LloydWales YFC
Pam Gay
Girlguiding Cymru
Phil Hubbard ( Co Opted Trustee)
Reserve Forces & Cadets Association, Wales
Sheila Smith
UNA Exchange
Stephanie Price
Duke of Edinburgh's Award
Community Based Organisations:
David Schofield
Cwmbran Centre for Young People
Helen Robins-Talbot
Talking Hands - Swansea & Neath Port Talbot
Jane Davies
Carmarthen Youth Project Dr M'z
John Heffernan
The Tanyard Youth Project Ltd
Pauline Richards
Valleys Kids
Rocio Cifuentes
Ethnic Youth Support Team
Hanes
Sefydlwyd CWVYS yn wreiddiol yn 1974 gan y Pwyllgor Sefydlog yng Nghymru o Fudiadau Ieuenctid Gwirfoddol, a sefydlwyd yntau yn 1947. Derbyniodd gyllid craidd gan y Swyddfa Gymreig ac yr oedd ganddo ei swyddfeydd a’i staff ei hun tan 1992, adeg sefydlu Cyngor Ieuenctid Cymru (CIC).
Gwnaed rhaglen waith CWVYS wedi hynny gan CIC trwy gytundeb lefel gwasanaeth. Yn 2001, yn sgîl datganoli, aeth CWVYS ati i arolygu ei gynlluniau strategol i'r dyfodol, mewn ymateb i’r newidiadau polisi yng Nghymru ar y pryd.
Yn dilyn negodi gyda Thîm Polisi Ieuenctid Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC), fel yr oedd ar y pryd, penderfynwyd rhoi cyllid craidd i CWVYS gyflogi Prif Weithredwr i’w wneud yn fwy annibynnol, tra’n dibynnu o hyd ar CIC am swyddfa a chymorth gweinyddol.
Wedi i CIC gau ar ddiwedd 2005, daeth CWVYS yn gwbl annibynnol unwaith yn rhagor gyda’i swyddfa a’i staff gweinyddol ei hun ym Mae Caerdydd.
CWVYS erbyn hyn
Ers iddo ddod yn annibynnol ar CIC, mae CWVYS wedi dod yn fwy hunanlywodraethol gyda hunaniaeth fwy diffiniedig ar wahân sy’n ei gwneud yn haws i’r maes Gwaith Ieuenctid ddeall natur ei waith. Er ei fod yn derbyn cyllid gan y Cynulliad Cenedlaethol gan gytuno ar gynllun gweithredu i dderbyn y cyllid hwnnw, mae’n annibynnol o LlCC ac fe’i hystyrir fel llais annibynnol y sector ar faterion y llywodraeth mewn perthynas â pholisi gwaith ieuenctid.
Staff CWVYS
Prif Weithredwr Paul Glaze
Rheolwr Gweithrediadau Julie Skelton
Swyddfa
CWVYS
Ty Baltic
Sgwar Mount Stuart
Caerdydd
CF10 5FH
Ffon: 02920 473498
Ffacs: 02920 451245
Rhif Elusen Gofrestredig : 1110702
Rhif y Cwmni : 5444248
Cyllid
Caiff CWVYS grant craidd gan Lywodraeth Cymru. Mae nawdd arall yn cynnwys arian o ffioedd aelodaeth, grantiau drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i gefnogi CWVYS fel y Rhwydwaith Ieuenctid yn y cynllun Sector Gwirfoddol a grantiau penodol ar gyfer prosiectau a nodwyd gan ymddiriedolaethau elusennol.