Beth y byddech chi’n ei ennill o ddod yn aelod CWVYS?
Buddiannau ymuno â CWVYS i Sefydliadau Ieuenctid Gwirfoddol
Ar gyfer nodau, amcanion, rolau a swyddogaethau CWVYS gweler tudalen
Amdanom Ni
Prif fanteision ymaelodi â CWVYS yw:
- Sicrhau y caiff llais eich sefydliad ei glywed, drwy Sefydliad Ambarél, yn uniongyrchol i Gynulliad Cymru a Phartneriaethau Pobl Ifanc.
- Bod yn rhan o sefydliad sy’n hollol ymroddedig i helpu’r sector Ieuenctid Gwirfoddol
- Cael gwybod am ddatblygiadau polisi lleol a chenedlaethol pan fyddant yn digwydd.
- Gwybodaeth am hyfforddiant, achrediad ac ansawdd
- Cael y wybodaeth ddiweddaraf am nawdd sydd ar gael i’r Sector Ieuenctid Gwirfoddol
- Gwybodaeth am ddigwyddiadau o ddiddordeb a chyfleoedd hyfforddi i’r Sector Ieuenctid Gwirfoddol
- Y cyfle i rwydweithio gyda Mudiadau Ieuenctid Gwirfoddol eraill yng Nghymru, y DU a’r tu hwnt
- Rhannu gwybodaeth ac arfer da gyda sefydliadau aelod