20 Nov 2018

Trans-flag-548x331

Cyfeirir y datganiad hwn at bob person ifanc yng Nghymru.

Creda CWVYS bod lleisiau pobl ifanc angen cael eu clywed, a bod y bobl ifanc yn haeddu cael eu clywed.

Mae CWVYS yn cefnogi eich hawl i fod yn chi’ch hun.

Rydych yn haeddu cael eich trin â pharch.

Creda CWVYS bod y broses ymgynghori ddiweddar ar Ddiwygiadau i’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd yn mwyhau’r materion a wynebir gan bobl ifanc traws.

Mae’r broses i newid rhywedd yn gyfreithiol yn gofyn bod gan ymgeiswyr ddiagnosis meddygol a’u bod yn cyflwyno symiau enfawr o dystiolaeth. Mae hyn yn anodd, yn ddiraddiol ac nid yw’n cyd-fynd ag arferion rhyngwladol.

Caiff y materion hyn eu gwaethygu ar gyfer y sawl 18 oed neu’n iau nad sydd wedi eu cynrychioli mewn deddfwriaeth gyfredol ac mae angen egluro hyn ymhellach fel rhan o ddiwygio’r Ddeddf, gyda CWVYS yn croesawu’r adolygiad hwn.

Mae CWVYS yn cefnogi pobl ifanc traws a byddant yn cefnogi gwaith cyfredol i sicrhau yr ategir eu hawliau.

CWVYS
Tachwedd 2018

About the Author

Leave a Reply

*

captcha *